Cau rhan o Queensway Road dros y Nadolig
Wedi ei bostio ar Friday 17th December 2021
Caiff y lôn gerbydau tua’r gogledd ar Queensway (ochr yr orsaf drenau) ei chau sawl gwaith dros y Nadolig er mwyn gwneud gwaith ar bont newydd Devon Place.
Caiff prif rychwant y bont ei osod yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y bont dros y trac rheilffordd ac felly dim ond pan nad yw’r trac yn weithredol y gellir gwneud y gwaith hwn.
Bydd y lôn gerbydau ar gau yn ystod yr amseroedd canlynol er mwyn cludo a chydosod y craen a fydd yn rhoi’r rhychwant yn ei le:
- Dydd Mawrth 21 Rhagfyr – 21:00 i 06:00
- Dydd Mercher 22 Rhagfyr – 21:00 i 06:00
- Dydd Iau 23 Rhagfyr – 21:00 i 06:00
Yna bydd y ffordd ar gau o 21:00 Ddydd Gwener 24 Rhagfyr tan 05:00 Ddydd Llun 27 Rhagfyr. Caiff y prif waith o osod y rhychwantau ei wneud yn ystod yr amseroedd hyn.
Bydd y lôn gerbydau hefyd ar gau yn dilyn y gwaith, er mwyn datgymalu a symud y craen, yn ystod yr amseroedd canlynol:
- Dydd Mercher 29 Rhagfyr – 21:00 i 06:00
- Dydd Iau 30 Rhagfyr 2021 - 19:00 i 20:30
Bydd arwyddion dargyfeirio ar waith yn ystod y cyfnodau cau a restrir uchod.
Mae'r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai'r cyfnodau cau hyn ei achosi, a diolch i drigolion am eu hamynedd wrth i ni weithio gyda'n partneriaid i greu’r cyswllt newydd hwn rhwng Devon Place a chanol y ddinas.