Newyddion

Mynediad cerbyd newydd i Forge Mews, Bassaleg

Wedi ei bostio ar Friday 13th August 2021

Crëwyd ffordd fynediad dros dro i gerbydau o ffordd osgoi Tŷ-du'r A467 i Forge Mews yn dilyn cau Hen Bont Bassaleg mewn argyfwng.

 

Er mwyn sicrhau mynediad ac allanfa ddiogel, mae'r A467 wedi'i leihau i un lôn tua'r gogledd a gostyngwyd y terfyn cyflymder i 30mya.

 

Dim ond cerbydau sydd angen mynd i mewn ac ymadael â Forge Mews all ddefnyddio lôn chwith yr A467 rhwng cylchfan Forge Road a chylchfan Chartist Drive ac mae arwydd clir ar gyfer hyn.

 

Gofynnir i yrwyr sy'n teithio tua'r gogledd ar yr A467 bwyllo a bod yn ymwybodol o gerbydau sy'n uno o'r lôn chwith.

 

Cafodd Hen Bont Bassaleg ei chau ddydd Gwener diwethaf ar ôl i arolwg strwythurol ganfod ei bod yn anniogel a bod preswylwyr yn cael eu cynghori i adael eu cartrefi gan na allai cerbydau brys gyrraedd Forge Mews.

 

Oherwydd y brys i sicrhau y gallai cerbydau brys gael mynediad i'r stryd, dechreuodd y gwaith ar unwaith i greu mynediad dros dro ac mae bellach wedi'i gwblhau.

 

Mae'n golygu y gall trigolion Forge Mews a oedd wedi dewis gadael eu cartrefi symud yn ôl erbyn hyn.

 

Bydd y ffordd yn parhau megis hyd nes y cwblheir y gwaith adfer ac y credir bod Hen Bont Bassaleg yn ddiogel i'w hailagor.

 

Bydd gwaith i atgyweirio'r bont yn dechrau cyn gynted ag y bydd yr asesiad o'r arolygon llawn wedi'i gwblhau a phenderfyniad wedi'i wneud ar yr ateb gorau i fater y difrod dan sylfaen y bont sydd wedi ei rhoi mewn perygl o gwympo.

 

Mae'r llwybr mynediad newydd ar gyfer cerbydau yn unig (nid sgwteri symudedd). Mae mynediad i gerddwyr ar gael o hyd drwy'r bont droed dros yr A467.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.