Newyddion

Presenoldeb mewn angladdau yn Amlosgfa Gwent - nifer y galarwyr a ganiateir

Wedi ei bostio ar Tuesday 17th August 2021

Mae nifer y galarwyr all fynd i angladdau yn Amlosgfa Gwent wedi newid yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.

Gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Cymru wedi symud yn llawn i Lefel Rhybudd Sero, mae nifer y galarwyr all fynd i angladdau yn Amlosgfa Gwent wedi cynyddu.

Dim ond unigolion sy’n cael eu gwahodd yn benodol gan drefnydd yr angladd all fynd i’r angladd fel galarwr o hyd, ynghyd â gofalwr unrhyw un sy’n mynychu.

Nifer y bobl all fynd i Gapel Amlosgfa Gwent ar hyn o bryd yw: 120

Fodd bynnag, er gwaethaf llacio'r cyfyngiadau, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o hyd wrth gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a'i ledaenu.

Felly, rhaid i bawb sy'n bresennol yng Nghapel Amlosgfa Gwent fod yn eistedd a pharhau i wisgo gorchuddion wyneb. Ni chaniateir canu cynulleidfaol.

Anogir y rhai sy'n bresennol hefyd i gadw pellter diogel oddi wrth ei gilydd cyn belled ag y bo modd ac osgoi cyswllt corfforol fel ysgwyd dwylo neu gofleidio.

Hefyd, mae golchi dwylo'n aml a'r defnydd o hylif diheintio dwylo yn parhau'n bwysig, yn ogystal ag osgoi cyffwrdd eich trwyn/ceg â dwylo heb eu golchi.

Oherwydd yr achosion parhaus o Coronafeirws Covid-19, bu'n rhaid cyfyngu ar y niferoedd all fynychu angladdau yn Amlosgfa Gwent.

Mae'r Cyngor yn cydnabod ac yn deall yn llawn pa mor anodd fu'r cyfyngiadau hyn i deulu a chyfeillion yr ymadawedig, ac felly mae wedi ymrwymo i'w hadolygu'n rheolaidd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.