Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin
Wedi ei bostio ar Friday 9th April 2021
"Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi'i dristáu gan y newyddion am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn dilyn blynyddoedd lawer o wasanaeth ffyddlon i'r wlad.
"Fel arwydd o barch, mae'r baneri yn y Ganolfan Ddinesig yn chwifio ar hanner mast. Bydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal ar ddechrau cyfarfodydd y Cyngor yn y dyddiau nesaf.
"Mewn amgylchiadau arferol, byddai llyfrau cydymdeimlo ar gael i'r cyhoedd eu llofnodi yn adeiladau'r Cyngor. Fodd bynnag, rydym yn trefnu llyfr cydymdeimlo ar-lein a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
"Estynnwn gydymdeimlad y Cyngor, y ddinas a'n trigolion i deulu'r Dug ar hyn o bryd."
Y Cynghorydd Tom Suller, Maer Dinas Casnewydd