Covid 19: datganiad gan yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr
Wedi ei bostio ar Friday 2nd October 2020
Mae neges ar y cyd gan Arweinydd y Cyngor Jane Mudd a'r Prif Weithredwr Beverly Owen yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Casnewydd yn parhau dan gyfyngiadau diogelu lleol.
Cyflwynwyd y cyfyngiadau ychwanegol ar 22 Medi oherwydd cynnydd pryderus mewn achosion o'r Coronafeirws ac maent yn parhau i godi.
Hoffem ddiolch i drigolion, busnesau a'r rhai sy'n dod i mewn i'r ddinas am resymau hanfodol am gydymffurfio â'r rheolau. Credwn y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith ar ledaeniad y feirws ac mae angen inni ddal ati i sicrhau bod y duedd yn arafu ac yn cael ei gwrthdroi.
Rhaid inni i gyd gydnabod bod y feirws yn peri risg sylweddol i ni ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a'r rhai y deuwn i gysylltiad â nhw, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn pobl a lleihau lledaeniad y feirws yn y ddinas, gan leihau'r straen ar ein gwasanaethau iechyd lleol gwerthfawr.
Mae'r feirws eisoes wedi cael effaith ddifrifol, a thrasig hyd yn oed, ar lawer o bobl a'u hanwyliaid. Rydym yn annog pawb i ddilyn y cyfyngiadau yn ddieithriad. Mae manylion y rheolau lleol i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gwneud y canlynol:
- Cyfyngu ar ein teithio
- Cyfyngu cyswllt â phobl eraill
- Dilyn y cyfreithiau ar gyfarfod â theulu a ffrindiau
- Golchi ein dwylo'n rheolaidd
- Cadw ein pellter rhag eraill
- Gwisgo gorchudd wyneb pan fo angen.
Y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd, a Beverly Owen, Prif Weithredwr, Cyngor Dinas Casnewydd