Newyddion

Mae'r Bont Gludo yn agor ar gyfer y tymor twristiaeth

Wedi ei bostio ar Tuesday 26th March 2019
Transporter Bridge 004

Pont Gludo Casnewydd

Bydd ymwelwyr â Phont Gludo Casnewydd yn gallu cerdded ar ben y strwythur eiconig y mis nesaf.

Fodd bynnag, canfuwyd bod angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol ar beiriannau’r Gondola Fictoraidd sydd wedi bod yn gweithio’n gyson ers 1906, ar ôl i arolygiad cynnal a chadw rheolaidd ganfod bod rhai darnau wedi treulio.

Oherwydd oedran y darnau, bu’n rhaid cael eu gwneud yn arbennig. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gobeithio y bydd y Gondola yn weithredol erbyn diwedd mis Mai.

Dywedodd llefarydd: “Mae croeso i ymwelwyr ddod a gweld y bont, a gallant fynd am dro i’r pen uchaf a mwynhau’r golygfeydd trawiadol dros y ddinas.

“Yn anffodus, mae angen rhywfaint o waith ar y gêr weindio ac oherwydd y mecanwaith arbenigol bu rhaid inni gael y darnau wedi eu gwneud yn arbennig, sy’n cymryd amser. 

“Cawsom amserlen ar gyfer y gwaith hwn, sef oddeutu tri mis felly gobeithiwn y bydd y gondola yn gweithio eto rywbryd ym mis Mai.”

Mae’r staff, Ffrindiau Pont Gludo Casnewydd a gwirfoddolwyr yn awyddus i groesawu ymwelwyr o 3 Ebrill ymlaen, o ddydd Mercher i ddydd Sul o 10am tan 5pm; caiff yr ymwelwyr olaf fynd i’r lefel uchel am 4pm yr hwyraf. 

Codir tâl mynediad gostyngol tra bo’r gondola ar gau.

Mae ymgyrch i godi cyllid i gynnal y Bont Gludo mewn cyflwr gweithio da ac i adeiladau canolfan ymwelwyr newydd gyda chyfleusterau arbenigol yn parhau i fynd rhagddo ar ôl y cyfnod cau yn ystod y gaeaf.

*Cyfrannwch i helpu i sicrhau dyfodol ein Pont Gludo, ewch i www.justgiving.com/crowdfunding/newporttransporterbridge1

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.