Newyddion

Gwahoddiad i'r cyhoedd i wasanaeth Casnewydd i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost

Wedi ei bostio ar Tuesday 22nd January 2019

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal gwasanaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yng Nghadeirlan Casnewydd am 11am ddydd Llun 28 Ionawr.

Mae eleni'n 25 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Rwanda, a 40 mlynedd ers diwedd yr hil-laddiad yn Cambodia.

Mae croeso i'r cyhoedd ddod i'r achlysur arbennig hwn sydd â'r thema "gorfodi o gartref" eleni.

Bydd y gwasanaeth yn adfyfyrio ar sut mae gorfodi rhywun allan o le diogel yn rhan o'r trawma y mae'r rheiny sy'n profi erlyniad a hil-laddiad yn ei wynebu.

Ymhlith y rhai fydd yn mynychu eleni mae Arglwydd Raglaw Gwent, yr Uchel Siryf, Maer Casnewydd ac Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd.

Bydd disgyblion o ysgolion Casnewydd yn rhan flaenllaw o'r gwasanaeth gyda chôr Ysgol Uwchradd Llanwern yn perfformio nifer o ganeuon, a disgyblion o Fasaleg a Chaerllion yn cyflwyno darlleniadau a gweddïau. Bydd plant o Ysgol Gynradd Ringland ynghlwm wrth yr orymdaith â chanhwyllau tra bydd Ensemble Pres Cerddoriaeth Gwent yn perfformio.

Mae'r digwyddiad cofio cenedlaethol wedi'i gynnal yn y DU er 2001 gyda mwy na 2,400 o weithgareddau lleol yn cael eu cynnal ar neu o gwmpas 27 Ionawr bob blwyddyn.

Mae hwn yn ddiwrnod i ddangos parch ac i gofio am y miliynau o bobl a fu farw yn ystod, neu y cafodd eu bywydau eu newid gan, yr Holocost, erledigaeth y Natsiaidd a hil-laddiadau yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.