Newyddion

Dirwy i yrrwr tacsi

Wedi ei bostio ar Wednesday 21st November 2018

Cafodd gyrrwr tacsi a gafodd ei dal yn ysmygu yn ei cherbyd nifer o weithiau ei herlyn gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Torrodd Helen Elizabeth Jones o Chepstow Road, Casnewydd, y gyfraith pan gafwyd hi’n ysmygu yn ei thacsi, sy’n lle di-fwg dan Ddeddf Iechyd 2006.

Roedd Miss Jones eisoes wedi derbyn pum Hysbysiad Cosb Benodedig am ysmygu neu daflu ysbwriel rhwng 2016 a 2018. Ni thalodd un o’r rhain a chafodd ei herlyn gan y cyngor yn 2017 a chyflwynodd y llys ddirwy o £220 a chostau iddi.

Yna, gwelodd uwch reolwr y cyngor hi’n ysmygu yn ei thacsi ac yn taflu’r pen sigarét ar lawr ym mis Mehefin 2018.

Oherwydd ei throseddau cynt, penderfynwyd fwrw ymlaen yn syth ag erlyniad, yn hytrach na chyflwyno HCB arall iddi.

Yna gwelodd wardeiniaid diogelwch hi’n ysmygu yn ei thacsi ar ddau achlysur arall ac ychwanegwyd y rhain at ei herlyniad.

At ei gilydd, cafodd Miss Jones ei herlyn yn Llys yr Ynadon Cwmbran am bedair trosedd – un am daflu ysbwriel a thair arall am ysmygu. Cafwyd hi’n euog yn ei habsenoldeb oherwydd na ddaeth i’r llys.

Cafodd y ddirwy uchaf, sef £200 am bob trosedd ysmygu oherwydd ei bod yn troseddu’n barhaus ac yn diystyru’r gyfraith yn llwyr.

Gorchmynnwyd hi i dalu £980 yn cynnwys costau.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio: “Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth i atal ysmygu mewn llefydd di-fwg er mwyn diogelu aelodau’r cyhoedd rhag effeithiau niweidiol mwg sigarét eilradd.

“Ni fydd swyddogion yn goddef torri’r gyfraith ac fel y dengys yr achos hwn, eir i’r afael â throseddwyr parhaus yn gadarn.

“Yn ogystal, mae’r cyngor yn trin troseddau taflu ysbwriel o ddifrif oherwydd yr effaith ar ddelwedd y ddinas a’r costau glanhau sylweddol.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.