Newyddion

Pleidleisiwch dros Ganolfan Gamlas y Pedwar Loc ar Ddeg

Wedi ei bostio ar Monday 5th March 2018
Canal Centre Fourteen Locks resized

Canolfan Gamlas y Pedwar Loc ar Ddeg

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ceisio sicrhau hwb ariannol o fenter gan Tesco i helpu Canolfan Gamlas y Pedwar Loc ar Ddeg i gynnal project haf.

Mae cynllun Bags of Help Tesco yn gydweithrediad rhwng yr archfarchnad a Groundwork i lansio ei gynllun ariannu cymunedol.

Bydd grantiau o £4,000, £2,000 a £1,000 – arian a godir trwy werthu bagiau siopa 5c mewn siopau Tesco – ar gael i wneud cais amdanynt.

Mae tri grŵp ym mhob rhanbarth Tesco wedi cael eu dewis i fod ar y rhestr fer i dderbyn dyfarniad arian a gwahoddir siopwyr i bleidleisio dros bwy yn eu barn nhw a ddylai gael y grant mwyaf.

Mae Tîm Gwasanaethau Gwyrdd Cyngor Dinas Casnewydd yn un o’r grwpiau ar y rhestr fer ar gyfer y project GoWild@FourteenLocks a fydd yn cynnig sesiynau ysgol goedwig a chrefft y goedwig am ddim bob wythnos i bobl ifanc yn ogystal â diwrnod llawn hwyl i’r teulu ar thema natur, oll yn cael eu trefnu yng Nghanolfan Gamlas y Pedwar Loc ar Ddeg yn ystod gwyliau’r haf.

Bydd y sesiwn wythnosol yn addas i blant 11 oed a hŷn gyda’r rhai sy’n cymryd rhan bob wythnos yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau a datblygu dealltwriaeth ddyfnach o fyd natur a sgiliau crefft y goedwig.

Bydd y Diwrnod Llawn Hwyl i Deuluoedd yn agored i bawb o bob oedran gyda gweithgareddau a chrefftau a fydd yn archwilio’r amgylchedd naturiol a rhoi cyngor ar sut i ofalu amdano.

“Mae rhaglen weithgareddau’r haf yng Nghanolfan y Pedwar Loc ar Ddeg yn gyfle gwych i bawb o bob oedran ddod i nabod byd natur ychydig yn well. Gobeithio bydd ein cymuned leol yn pleidleisio drosom ni i’n helpu i ennill y grant mwyaf,” meddai rheolwr y ganolfan, Kate Wickens.

Bydd cyfle i bleidleisio ym mhob siop Tesco trwy gydol mis Mawrth a mis Ebrill a gall cwsmeriaid fwrw eu pleidlais trwy ddefnyddio tocyn a roddir iddynt wrth y til yn y siop bob tro byddant yn siopa.

Mae project Bags of Help Tesco eisoes wedi dyrannu dros £43 miliwn i fwy na 10,000 o brojectau ledled y DU.

Meddai Alec Brown, pennaeth cymunedau yn Tesco: “Rydym wrth ein boddau i ddechrau’r cyfnod pleidleisio ar gyfer mis Mawrth a mis Ebrill. Mae rhai projectau arbennig ar y rhestrau byrion ac rydym yn edrych ymlaen yn frwd at weld y rhain yn cael eu gweithredu mewn cannoedd o gymunedau.”

 Meddai Graham Duxbury, prif weithredwr cenedlaethol Groundwork: “Mae wedi bod yn wefreiddiol gweld yr amrywiaeth o brojectau sydd wedi gwneud cais am arian. Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau pleidlais y cwsmeriaid ac yna cynorthwyo pob grŵp i roi ei broject ar waith.”

Mae cyllid ar gael i grwpiau ac elusennau cymunedol sy’n ceisio ariannu projectau lleol er lles cymunedau. Gall unrhyw un enwebu project a gall sefydliadau wneud cais ar-lein. I ddysgu mwy, ewch i www.tesco.com/bagsofhelp

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.