Gallai Marchnad Casnewydd fod y Tramshed nesaf
Wedi ei bostio ar Thursday 19th July 2018
Conceptual image
Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi rhoi ei gefnogaeth mewn egwyddor i gynnig ailddatblygu gwerth £12 miliwn i adnewyddu ac adfywio marchnad hanesyddol Casnewydd.
Mae gan Simon Baston, rheolwr gyfarwyddwr Loft Co, sef y gŵr y tu cefn i drawsnewid Tramshed Caerdydd, y Tŷ Pwmpio yn y Barri ac Adeilad Jennings ym Mhorthcawl, gynlluniau nawr ar gyfer y farchnad rhestredig gradd dau.
Bwriad y cwmni yw gweithio mewn partneriaeth â chwmni WRW Construction o Gymru ar y project a gaiff ei gwblhau mewn tri cham dros gyfnod o 18 mis.
Mae arbenigwr arobryn cwmnïau deori BBaCh a chydweithio cymunedol yn awyddus i greu gofod byw/gweithio 24-awr gyda hyb technoleg, fflatiau a gofod perfformio a chadw'r unedau marchnad a neuadd fwyd.
Mae'r Cabinet wedi cytuno i roi prydles ddatblygu 250 mlynedd i'r cwmni hwn, gyda'r cyngor yn derbyn cyfran o 15 y cant o'r incwm rhent wedi i'r gwaith gael ei gwblhau, a chyfleuster uchafswm benthyciad o hyd at £8.9 miliwn ar gyfradd llog masnachol. Mae hyn yn dibynnu ar ddiwydrwydd dyladwy cyfreithiol ac ariannol boddhaol.
Mae swyddogion wedi eu hawdurdodi i negodi'r penawdau telerau manwl a drafftio'r brydles derfynol a'r trefniant ariannu.
Os yw'r cynllun yn mynd rhagddo yn dilyn y profion hyn a chael caniatâd cynllunio, caiff y gwaith ei wneud yn raddol er mwyn i'r busnesau yn y farchnad allu parhau i weithredu yn ystod y cyfnod adeiladu.
Meddai'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae rhywun sy'n gweld potensial Marchnad Casnewydd wedi cysylltu â ni.
"Yn ogystal ag achub y farchnad rhag dirywio'n waeth o bosibl, mae'r cynigion hefyd yn cyd-fynd ag uchelgais y cyngor i wneud cynnig canol y ddinas yn fwy byw.
"Mae'r cyfle hwn yn un cyffrous iawn ac rydyn ni'n ei weld fel diogelu, a gwella, tirnod hanesyddol, ac yn lawn cyn bwysiced, dyfodol mwy diogel a disglair ar gyfer y farchnad.
"Mae Simon yn rhagweld y gallai'r datblygiad greu dros 300 swydd newydd barhaol a nifer sylweddol o fusnesau bach a chanolig yn cychwyn yn y flwyddyn gyntaf; byddai hyn, ynghyd â rhagor o ddefnydd preswyl heb os yn rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr ac yn creu mwy o fasnach i ddeiliaid y stondinau.
"Rydyn ni'n dal i gredu bod gan y farchnad rôl bwysig a bydd y cynigion yn sicrhau y gellir ei hadfywio i ateb galw'r 21ain ganrif a chadw hefyd ei lle hanesyddol yng nghanol y ddinas.
"Bu'r farchnad yn dirywio ers nifer o flynyddoedd er gwaethaf buddsoddiad sylweddol y cyngor ac ymdrech y masnachwyr.
"Roedd y dyfodol hirdymor yn ymddangos yn ansicr yng nghyd-destun y rhagolygon ariannol llwm ar gyfer y cyngor.
"Yn ddiweddar, bu cadeirydd newydd masnachwyr y farchnad, Annette Farmer, yn gwneud gwaith ardderchog mewn amgylchedd caled dros ben i fusnesau bychain oherwydd y newid cyflym yn ein dull o siopa. Rydyn ni'n credu y bydd y buddsoddiad mawr hwn yn y farchnad yn ateb galw'r deiliaid stondinau ers nifer o flynyddoedd, a bydd ailddatblygu llwyddiannus o fantais i fasnachwyr a phreswylwyr.
"Er bod y project yn ei ddyddiau cynnar, teimlai'r weinyddiaeth eu bod yn bwysig rhoi gwybod i'r cyhoedd cyn gynted â phosibl. Bydd y datblygwr yn cynnal dyddiau ymgynghori â masnachwyr, partïon â diddordeb a phreswylwyr yn fuan."
Dywedodd Simon Baston: "Mae Loft Co yn arbenigo ar gynlluniau defnydd cymysg cymhleth ac, yn benodol, ar lefel cydweithredu cymunedol wrth adeiladu BBaChau ac unedau deori.
"Mae gan Loft Co sylfaen gref o ddarparu cynlluniau a gaiff eu harwain gan y gymuned mewn ardaloedd hynod adfywiol a bydd ymrwymiad llawn ganddo i sicrhau ymgysylltiad llawn â'r holl aelodau presennol a defnyddwyr ac aelodau'r farchnad heddiw ac yn y dyfodol.
"Rydym wrth ein bodd o gael ein dewis i weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd ar yr adeilad hynod eiconig hwn a thempled ar gyfer beth y gellir ei gyflawni yn y 21ain ganrif yn nhermau byw defnydd cymysg llawn. Mae Loft Co yn gweld Marchnad Casnewydd fel templed perffaith ar gyfer sylfaen byw/gweithio cynaliadwy."