Lansio ymgynghoriad ar uwchgynllun canol y ddinas
Wedi ei bostio ar Thursday 18th January 2018
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gwahodd trigolion i ddweud eu barn am y weledigaeth ar gyfer datblygu canol y ddinas yn y dyfodol.
Lansiwyd ymgynghoriad ym mhumed Uwchgynhadledd Dinas Casnewydd a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Celtic Manor.
Mae'r cyngor yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiannau a gyflawnwyd eisoes yng nghanol y ddinas yn dilyn cwblhau Friars Walk a phrojectau trawsnewidiol dan y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
Mae wedi nodi strategaeth a blaenoriaethau drwy ganolbwyntio ar dair ardal o bwys, sef porth gogleddol, canol y ddinas a Glan-yr-afon.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 5 Mawrth 2018. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.newport.gov.uk/haveyoursay