Newyddion

Dyn wedi'i garcharu am 16 mis oherwydd twyll

Wedi ei bostio ar Thursday 20th December 2018

Carcharwyd dyn o Gasnewydd a dwyllodd fenyw leol gyda miloedd o bunnoedd – wrth iddo fod allan o’r carchar ar drwydded am drosedd debyg.

Cyflwynodd Ronald Connors o Faerun, Casnewydd ble euog am drosedd o dwyllo pan aeth gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 30 Hydref. Cafodd ei ddedfrydu ar 14 Rhagfyr.

Clywodd y llys y cytunodd Connors, dan enw masnachu Barleystone Driveways, i gyflawni gwaith yng nghartref menyw oedrannus yng Nghasnewydd ym mis Mawrth 2015.

I gychwyn, cynigiodd gyflawni gwaith cynnal a chadw ar  wal ardd a dreif am gost isel, ond cynyddodd y gwaith yn gyflym i gynnwys pethau megis to newydd, gan ddyfynnu pris £38,000.

Cytunodd y trigolyn ar y pris, dan yr argraff bod y gwaith yn angenrheidiol, a gwnaed y gwaith dros yr wythnosau nesaf.

Fodd bynnag, roedd y ffaith bod y person yn mynnu arian yn gyson yn poeni’r fenyw ac yna cysylltodd â Safonau Masnach Cyngor Casnewydd ond roedd hi wedi talu £14,000 iddo.

Clywodd y llys fod Connors wedi ymweld â’r trigolyn hyd yn oed ar ôl i safonau masnach ymyrryd, ym mis Gorffennaf 2015, gyda’r gobaith y byddai hi’n talu rhagor o arian iddo.

Yn ystod yr ymweliad, dangosodd Connor ei dag electronig iddi gan esbonio ei fod wedi cael ei ryddhau o’r carchar yn ddiweddar ar drwydded am droseddau tebyg a wnaed yng Nghaerdydd.

Oherwydd y drosedd hon, cafodd Connor ei adalw yn ôl i’r carchar.

Yn ystod gaeaf 2015 dechreuodd y to a gafodd ei drwsio’n wael ollwng dŵr ac roedd yn rhaid talu £3,200 i döwr lleol i wneud yn iawn am y problemau.

Ymddangosodd Connors yn Llys y Goron Caerdydd i gael ei ddedfrydu ar 14 Rhagfyr a rhoddwyd dedfryd garchar 16 mis iddo. Cafodd hefyd orchymyn i ad-dalu £7,300 fel iawndal i’r dioddefwr yn ogystal â chostau o £5,000.

Rhoddwyd Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol iddo hefyd a fydd yn ddilys tan 14 Rhagfyr 2028.  

Dan y gorchymyn hwn, ni chaniateir i Connors agosáu at unrhyw gyfeiriad preswyl unrhyw berson sy’n ymddangos yn hŷn na 50 yn y DU yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, boed hynny ar ei ben ei hun neu ar ran rhywun arall gyda’r nod o gynnig ei wasanaethau ei hun neu wasanaethau eraill ar gyfer cynnal a chadw gerddi neu adeiladau neu unrhyw fusnes neu waith arall, pa un bynnag a fyddai hyn.

Rhybuddiodd y Cynghorydd Ray Truman, yr aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros drwyddedu a rheoleiddio, drigolion rhag derbyn galwyr wrth y drws sy’n mynnu eu bod yn fusnesau cyfreithlon.

“Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth o ran credadwyedd unrhyw berson sy’n cynnig gwneud gwaith ichi, cysylltwch â safonau masnach cyn rhoi unrhyw arian iddo.

“Mae’r Cyngor yn cynnig Cynllun Prynu â Hyder sy’n golygu bod y cwmni wedi cael ei wirio sawl gwaith cyn cael caniatâd i fod ar y gofrestr a gall defnyddwyr fod yn ffyddiog bod y cwmnïau a’r unigolion hyn yn fusnesau cyfreithlon.

“Mae swyddogion yn cynghori pobl i gael sawl dyfynbris bob tro ar gyfer gwaith, fel y gallwch fod yn siŵr eich bod yn cael pris teg am y gwaith sydd i’w wneud,” meddai’r Cynghorydd Truman.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.