Cyngor yn mynd yn llym gyda thaflwyr sbwriel
Wedi ei bostio ar Monday 6th March 2017
Mae taflu sbwriel ar strydoedd Casnewydd wedi arwain at bron i 1,000 o bobl yn cael dirwy gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Yn ystod y naw mis cyn y Nadolig y llynedd, cyflwynodd tîm gorfodi’r Cyngor 940 o hysbysiadau cosb.
Ac aeth y rhai hynny a wrthododd dalu'r hysbysiad cosb benodedig o £75 i’r llys yn y pen draw.
Taflu sbwriel oedd y rhan fwyaf o'r troseddau, ond cafodd 10 perchennog cŵn Hysbysiad Cosb Benodedig, a chafodd 50 o bobl ddirwy o £50 yr un am ysmygu mewn man caeëdig.
Ymhlith y rhai hynny a gafodd hysbysiadau, talodd 620 o bobl y gosb benodedig o £75 sy’n dod i gyfanswm o £45,560.
Cafodd y 166 o bobl a wrthododd dalu eu herlyn yn y llys, gan naill ai bledio’n euog neu’u dyfarnu’n euog.
Yn ogystal â’r ddirwy, ychwanegodd y llysoedd gostau hefyd, felly yn y pen draw talodd troseddwyr fwy na’r hysbysiad cosb benodedig o £75. Roedd yn rhaid i droseddwyr a blediodd yn euog dalu costau o dua £120 yn ogystal â thâl dioddefwr o £30.
Profwyd achosion y rhain hynny na ddaeth i’r llys yn eu habsenoldeb a chawson nhw ddirwy o tua £220 yn ogystal â chostau o £120 a thâl dioddefwr o £30.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Poole, Aelod Cabinet dros Swyddogaethau Rheoliadol fod Cyngor Dinas Casnewydd yn cymryd y broblem o sbwriel o ddifrif ac y bydd yn mynd â throseddwyr trwy’r llysoedd.
“Mae ein swyddogion gorfodi yn gadarn o ran cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i droseddwyr felly rydym yn gobeithio bod pobl yn sylweddoli na fyddwn yn goddef y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol,” meddai’r Cyng Poole.
Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth ei fod wrth ei fodd o waith caled y tîm gorfodi sydd wedi arwain at ganlyniad da.
“Rydym yn gobeithio bod hyn yn creu neges gref na fyddwn yn goddef taflu sbwriel, ac yn annog perchenogion cŵn i fod yn gyfrifol wrth ddelio gyda’u hanifeiliaid anwes yn baeddu mewn mannau cyhoeddus. Mae pawb yn gyfrifol am gadw eu dinas yn lan ac i beidio â llygru yn y ffordd hon”.