Newyddion

Dal i fuddsoddi mewn cyllidebau ysgolion

Wedi ei bostio ar Wednesday 22nd February 2017

Mae rhedeg ysgolion a’u cyllidebau unigol yn gyfrifoldeb ar gyrff llywodraethu ysgolion a’r penaethiaid.<0} {0>Like all other council services, they have to manage their operations from within available resources.<}0{>Fel pob gwasanaeth cyngor arall, mae'n rhaid iddyn nhw reoli eu gweithrediadau o'r adnoddau sydd ar gael.

Er bod yr arian sydd ar gael i’r cyngor wedi’i dorri’n sylweddol, gwelwyd cynnydd yng nghyllidebau ysgolion o 19 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, sydd ymhell tu hwnt i addewid Llywodraeth Cymru.

Y llynedd, cafodd ysgolion gynnydd o 4.5 y cant ar eu cyllidebau unigol – sef y twf uchaf yng Nghymru.

Yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Chwefror, ychwanegwyd £1.1m at y gyllideb ysgolion ar gyfer 2017/2018. Yn amlwg yn cydnabod y pwyslais y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ei roi ar addysg.

Mae hyn yn ychwanegol i’r cyllid ychwanegol y mae ysgolion yn cario drosodd i 2017/18. Mae'r rhagolygon yn nodi mai £3.9m yw'r swm hwn. Cafodd ysgolion unigol eu cefnogi gan y Cyngor i gadw’r balansau hynny yn wyneb mesurau llymder posib.

Nid yw’r ffigyrau a gyhoeddwyd yn y wasg yn ddiweddar am sefyllfa ariannol ysgolion yn gywir, oherwydd nid ydynt yn ystyried y cyllid ychwanegol hwn nac unrhyw gamau y mae ysgolion yn eu cymryd i reoli eu cyllidebau eu hunain.

Mae ysgolion Casnewydd yn amlwg yn derbyn lefelau cyllid i’w cefnogi i gyflawni canlyniadau sy’n gwella’n barhaus – mae ysgolion cynradd Casnewydd ar y brig o ran categorïau ysgolion diweddar, ac mae gan Casnewydd y gyfran uchaf o ysgolion yn y categorïau gorau yng Nghymru.

Mae safonau ysgolion uwchradd yn dal i wella hefyd gyda chanlyniadau cynhwysol Lefel 2 gorau erioed yn ystod yr haf (pump TGAU neu gyfwerth yn A*-C, gan gynnwys Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg a mathemateg).

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.