Newyddion

Profion diogelwch yn y fan a'r lle i dacsis

Wedi ei bostio ar Friday 1st December 2017

Mae gweithrediad ar y cyd gan dîm trwyddedu Cyngor Dinas Casnewydd a Heddlu Gwent wedi profi 89 o dacsis a cherbydau llogi preifat i weld a oeddent yn ddiogel.

Mae hyn yn parhau â nifer o archwiliadau gyda’r nos ac yn ystod y dydd a ymgymerwyd gan y cyngor a’r heddlu dros y 12 mis diwethaf.

Mae’r ffigwr o 89 cerbyd yn cynrychioli 10 y cant o fflyd tacsis y ddinas ar hyn o bryd. O’r nifer hon, dim ond tri cherbyd a fethodd y prawf, oherwydd teiars gwallus. Roedd hyn yn 3.4 y cant yn unig o’r cyfanswm a archwiliwyd.

Mae’r cyngor yn fodlon ar y canlyniad hwn ac mae’n dangos gwelliant yn y fflyd tacsis. Hefyd, roedd y swyddogion yn gwerthfawrogi’r adborth cadarnhaol gan aelodau’r cyhoedd a gafodd eu stopio fel rhan o’r gweithrediad.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu a Heddlu Gwent yn cynnal rhagor o archwiliadau dros gyfnod y Nadolig, er mwyn sicrhau bod cerbydau’n addas at y diben.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, sef aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Drwyddedu a Rheoleiddio ei fod yn fodlon ar ganlyniad yr archwiliad.

Dywedodd: “Rydym yn hyderus bod y gweithrediad hwn ar y cyd yn sicrhau bod tacsis a drwyddedir gennym yn addas at y diben ac yn ddiogel i godi teithwyr.

“Rwy’n falch bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi’r gwaith sy’n cael ei wneud yn ystod y gweithrediad hwn a fydd yn parhau hyd at y Nadolig.”

 Ymddangosodd tacsis trwyddedig y cyngor yn ddiweddar ar Raglen X-Ray y BBC a oedd yn edrych ar dacsis hygyrch ar gyfer y sawl sydd ag anableddau.

Cydnabuwyd Cyngor Dinas Casnewydd gan y rhaglen fel un o wyth awdurdod yn unig allan o 22 yng Nghymru sy’n cydymffurfio’n llwyr â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r cyngor yn annog aelodau’r cyhoedd i adrodd am ddigwyddiadau lle y mae tacsis sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn wedi gwrthod teithiwr mewn cadair olwyn.

Mae pob cerbyd yn arddangos plât ar y cefn sy'n dangos y cerbyd a'r gyrrwr dan sylw yn glir i'r awdurdod.   I wneud cwyn ynglŷn â gyrrwr neu gerbyd, ffoniwch Cyngor Dinas Casnewydd ar 01633 656 656.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.