Newyddion

Tŷ bwyta yng Nghasnewydd yn derbyn dirwy am droseddau hylendid bwyd difrifol

Wedi ei bostio ar Thursday 27th April 2017

Mae tecawê a thŷ bwyta Indiaidd yn y ddinas wedi derbyn dirwy dros £32,000 am droseddau hylendid bwyd difrifol.

Roedd y New Delhi yn 131 Caerleon Road, Casnewydd yn cael ei rhedeg gan Doleshshori Ltd a'i Gyfarwyddwr Mr D Miah.

Fe bledion nhw’n euog yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 24 Ebrill, 2017, i 10 trosedd dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a dwy drosedd am fethu ag arddangos Sticer Hylendid Bwyd dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd 2013.

Yn sgil cwynion gan aelodau’r cyhoedd, aeth swyddogion iechyd amgylcheddol Cyngor Sir Casnewydd ar ymweliad dirybudd â’r busnes ym mis Medi 2016. Gwelon nhw olion pla eang a hir-sefydlog, gyda baw llygod y tu mewn i gynwysyddion bwyd, mewn rhewgelloedd, mewn gwresogwr platiau/poppadum ac ar lieiniau bwrdd.

Roedd glanhau a diheintio ledled y busnes bwyd yn wael ac roedd cyflwr cynnal a chadw’r adeilad hefyd yn wael.

Roedd y busnes hefyd yn arddangos hen sticer hylendid bwyd yn dangos sgôr o 4 (da) yn 2014 pan oedd ganddo sgôr mwy diweddar o 3 (boddhaol) ers Mehefin 2016.

I gydnabod y perygl sylweddol i iechyd y cyhoedd, cyflwynwyd hysbysiad atal brys gan swyddogion iechyd yr amgylchedd, er mwyn cau'r lleoliad yn syth bin. Trowyd yr hysbysiad yn orchymyn llys swyddogol ar ddydd Iau 19 Medi yn Llys Ynadon Casnewydd.

Rhoddwyd sgôr hylendid bwyd o sero i'r sefydliad, yn dangos bod angen gwella'n sylweddol.

Caniatawyd y busnes i ailagor ddydd Gwener 30 Medi 2017 wedi i waith glanhau a chynnal a chadw sylweddol gael eu gwneud.

Gwelwyd mewn ymweliad yn Rhagfyr 2016 bod rhai gwelliannau wedi digwydd, ond bod angen gwneud gwaith pellach. Roedd arwynebau yr oedd pobl yn cyffwrdd â nhw, megis switshis, yn frwnt, roedd angen glanhau pellach ar declynnau, roedd cynwysyddion bwyd yn frwnt a gwelwyd olion llygod eto.

Wrth benderfynu ar y dirwyon, dywedodd yr Ynadon eu bod wedi ystyried natur ddifrïol y troseddau, a’r ffaith fod cynifer ohonyn nhw, a’u bod yn ystyried diogelu iechyd y cyhoedd yn hollbwysig.

Cafodd Mr D Miah ddirwy o £11,750 a chafodd Doleshshori ddirwy o £21,760. Clustnodwyd costau’r ymchwiliad, sef £1,900 i Gyngor Sir Casnewydd.

Nid yw New Delhi bellach yn masnachu yn 131 Caerleon Road, Casnewydd. Mae gan y busnes sydd yno nawr, Raj of India, sgôr hylendid i bump – da iawn.

I gael rhagor o wybodaeth am hylendid a glanweithdra lleoliadau bwyd yng Nghasnewydd, ewch i http://ratings.food.gov.uk/  

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.