Yn rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 , mae’r Cyngor yn monitro ei berfformiad i’n helpu i weld pa mor dda mae gwasanaethau’n perfformio, y meysydd rydym yn gwneud yn dda ynddynt a lle mae angen i ni wella.
Rydym yn defnyddio dangosyddion perfformiad i asesu ein perfformiad ac yn cynnwys mesurau wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r rheiny wedi’u gosod gan y Cyngor i fodloni ein hanghenion lleol.
Rydym hefyd yn monitro adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac yn ymgynghori â chymunedau a phreswylwyr yn ogystal â rheolyddion annibynnol megis Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn.
Cynllun Corfforaethol
Y cynllun corfforaethol yw dogfen allweddol y cyngor sy’n nodi’r prif flaenoriaethau ar gyfer yr awdurdod dros gyfnod o bum mlynedd.
Nod y cynllun yw creu Casnewydduchelgeisiol, decach a gwyrddach i bawb. Mae’n seiliedig ar bedwar prif amcan afydd yn llywio cyfeiriad yr awdurdod, ynsicrhau bod pob prosiect a gwasanaethallweddol yn canolbwyntio ar gyflawniblaenoriaethau'r Cyngor, ac yn cefnogiein gweledigaeth fwy hirdymor ar gyferCasnewydd dros yr 20 mlynedd nesaf.
-
Economi, Addysg a Sgiliau:
Mae Casnewydd yn ddinas lewyrchus sy'n tyfu, sy'n cynnigaddysg ragorol ac sy’n dyheu am greu cyfleoedd i bawb.
-
Yr Amgylchedd a Seilwaith:
Dinas sy'n ceisio amddiffyn a gwella ein hamgylchedd tra’nlleihau ein hôl-troed carbon a pharatoi ar gyfer dyfodolcynaliadwy a digidol.
-
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol aChymunedol o Ansawdd:
Mae Casnewydd yn ddinas gefnogol lle mae cymunedau agofal wrth galon yr hyn a wnawn.
-
Cyngor Cynhwysol, Teg a Chynaliadwy:
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn sefydliad cynhwysol y maegwerth cymdeithasol, tegwch, a chynaliadwyedd wrth ei wraidd.
Mae'r amcanion yn y cynlluncorfforaethol hefyd yn cefnogi'r nodausydd wedi'u gosod yn Neddf LlesiantCenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Mae’rDdeddf yn gofyn i gyrff cyhoeddus yngNghymru feddwl am effaith hirdymor eupenderfyniadau a gweithio gyda phobl,cymunedau a’i gilydd i atal problemauparhaus fel tlodi, anghydraddoldebauiechyd a’r newid yn yr hinsawdd.
Darllenwch Gynllun Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd 2022-2027
Adroddiad blynyddol
Mae angen adroddiad blynyddol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Mesur Llywodraeth Leol 2009 sy’n cynnig trosolwg o’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn Cynllun Corfforaethol y Cyngor.
Gweld adroddiadau blenorol:
Cynlluniau Gwasanaethau 2020-21
Gweld cynlluniau gwasanaeth, cynlluniau corfforaethol, polisïau a strategaethau blynyddol y Cyngor.
Pwyllgorau Craffu a’r Cabinet
Mae pwyllgorau craffu a chabinet y Cyngor yn monitro’n rheolaidd berfformiad a’r risg o beidio â chyflawni’r Cynllun Corfforaethol.
Gweld agendau a chofnodion y pwyllgorau
Data Cymru
Gallwch ddefnyddio gwefan Data Cymru i gymharu perfformiad y Cyngor yn erbyn Dangosydd Strategol Cenedlaethol (NSIs) a Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs).
Cynllunio, perfformiad a rheoli risg
Mae’r Fframwaith Cynllunio, Perfformiad a Rheoli Risg Integredig (pdf) yn cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion y Cyngor drwy ddatblygu diwylliant sy'n gallu cynllunio'n effeithiol, dangos canlyniadau clir sydd o fudd i'n rhanddeiliaid, a bod yn wydn hefyd o ran y cyfleoedd a'r risgiau yr ydym yn dod ar eu traws.
Mae'r egwyddorion hyn hefyd yn cefnogi penderfyniadau'r Cyngor ar bob lefel o'r sefydliad.
I gefnogi'r Fframwaith datblygwyd Polisi Cynllunio a Pherfformiad (pdf) a Pholisi Rheoli Risg (pdf).
Mae'r ddau bolisi’n amlinellu'r llywodraethu a'r prosesau a gyflawnir gan y Cyngor i fonitro ei berfformiad a rheoli risgiau.
Mae Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor yn cael ei monitro gan y Cabinet a’r Pwyllgor Archwilio.
Rheolyddion allanol
Mae Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), sy’n gorff cyhoeddus annibynnol, yn helpu i sicrhau bod cynghorau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau.
Gweld adroddiadau SAC ar Gyngor Dinas Casnewydd
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheolydd gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru ac mae’n gyfrifol am gofrestru, archwilio a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau ar gyfer pobl yng Nghasnewydd a Chymru.
Gweld adroddiadau AGC
Mae Estyn yn gyfrifol am archwilio ansawdd a safonau mewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd, colegau, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion arbennig a gwasanaeth addysg y Cyngor.
Gweld archwiliadau Estyn cyhoeddedig