Y Pwyllgor Cynllunio

Mae Pwyllgor Cynllunio’r cyngor yn gyfrifol am benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau adfywio mawr ac unrhyw geisiadau dadleuol.

Mae’n rhaid i’r Pwyllgor asesu cynigion yn erbyn polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol, a chydbwyso buddion datblygiad arfaethedig â’i effeithiau posibl ar yr amgylchoedd. 

Gall y Pwyllgor hefyd gymryd camau gorfodi yn erbyn datblygiad annerbyniol, anawdurdodedig, ac mae’n gyfrifol am amddiffyn ei benderfyniadau i wrthod rhai ceisiadau cynllunio os cânt eu herio trwy apêl.   

Mae cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio ar agor i’r cyhoedd a gall unrhyw un fynychu tra bod materion anghyfrinachol yn cael eu trafod.

Darllenwch fanylion cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio

Edrychwch ar aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio

Lawrlwythwch y Cod Ymddygiad Cynllunio (pdf)

Siarad yn gyhoeddus mewn Pwyllgor Cynllunio(pdf)

O 1 Ionawr 2017 ymlaen, mae’n rhaid i gais i siarad mewn Pwyllgor Cynllunio gael ei gyflwyno wythnos cyn y cyfarfod erbyn 9am ar ddydd Mercher, felly os yw’r Pwyllgor Cynllunio wedi’i drefnu ar gyfer yr 8fed o’r mis, byddai’n rhaid cyflwyno cais erbyn 9am ar ddydd Mercher y 1af.

Ewch i’r tudalennau cynllunio 

Cysylltu 

Cysylltwch â’r tîm gwasanaethau democrataidd yng Nghyngor Dinas Casnewydd