Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Social services and wellbeing act_welsh

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

Sut y bydd hyn yn effeithio ar fy ngofal a'm cymorth?

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gyfraith newydd a fydd yn rhoi llawer mwy o lais i chi o ran y gofal a'r cymorth a gewch.  

I'ch cefnogi i wella eich llesiant, byddwch yn gwneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. I'ch helpu i wneud hynny, bydd gennych fynediad rhwydd at wybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi. 

Bydd gan ofalwyr yr un hawliau â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt o ran cael asesiadau am gymorth, a bydd gan fwy o bobl yr hawl i gael Taliadau Uniongyrchol. 

Bydd proses asesu gofal a chymorth newydd yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. Bydd yn ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan eich teulu, eich ffrindiau ac eraill yn y gymuned. 

Bydd yr asesiad yn fwy syml a bydd modd i unigolyn ei gynnal ar ran amrywiaeth o sefydliadau. 

Bydd mwy o wasanaethau er mwyn rhwystro problemau rhag gwaethygu, er mwyn i'r cymorth cywir fod ar gael pan mae ei angen arnoch chi. 

Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag cam-drin neu esgeulustod hefyd yn cael eu cyflwyno. 

Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Byddwch yn dilyn y broses newydd yn eich asesiad nesaf. 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - Cwestiynau Cyffredin

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://gov.wales/topics/health/socialcare/act/?skip=1&lang=cy