Prif ddigwyddiadau

Yn dilyn llwyddiant Uwchgynhadledd NATO yn 2014 a Chwpan Ryder 2010, mae gan Gasnewydd enw da cynyddol fel canolfan ryngwladol ar gyfer digwyddiadau.

Gŵyl Fwyd Tiny Rebel Casnewydd 

Wedi’i noddi gan Tiny Rebel, mae’r ŵyl fwyd yn rhoi blas unigryw ar Gasnewydd gyda dros 70 o stondinau’n arddangos bwyd a diod lleol a rhanbarthol, arddangosiadau cogyddion, Her y Cogydd Ifanc, theatr stryd, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau plant. 

Ewch i wefan Gŵyl Fwyd Casnewydd i ddarganfod mwy.

Cyfarfod Cyngor InterAction 2015

Cyfarfu gwladweinwyr y byd yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd ar gyfer y Cyngor InterAction, corff o gyn-arweinwyr byd sy’n datblygu datrysiadau ymarferol i broblemau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol y byd.

Uwchgynhadledd NATO

Daeth arweinwyr y byd i Gasnewydd ym mis Medi 2014 i fynychu Uwchgynhadledd NATO. Darllenwch fwy am sut cynhaliodd Casnewydd y digwyddiad ym Materion Casnewydd (pdf).

Uwchgynhadledd Dinas Casnewydd

Caiff arweinwyr busnes wybodaeth ddiweddar ar gyflawniadau a chynlluniau i’r ddinas mewn Uwchgynhadledd Dinas Casnewydd reolaidd.