Sesiynau casglu sbwriel cymunedol

Os hoffech chi ymuno â'r gwirfoddolwyr niferus sy'n rhoi o'u hamser i helpu i gadw cymunedau Casnewydd yn lân ac yn rhydd o sbwriel, dilynwch y camau isod.

Gallwch fenthyg offer casglu sbwriel, cylchynau, festiau llachar a bagiau bin o  Hyb Cadwch Gymru'n Daclus Casnewydd a byddwn yn cymryd y bagiau o sbwriel yr ydych yn eu casglu.

Cam 1: Sefydlu cyfrif personol ar Fy Nghasnewydd a dweud wrthym am eich sesiwn casglu sbwriel -Byddwn wedyn yn rhoi rhif cyfeirnod a sticeri i chi eu rhoi ar y bagiau bin. 

Cyn cynnal casgliad sbwriel, rhaid i chi gwblhau ffurflen asesu risg a’i chadw ar gyfer eich cofnodion eich hun. Gallwch ddefnyddio ein Templed Asesu Risg (doc) os dymunwch.

Cam 2: codwch sbwriel o balmentydd, lleiniau ymyl a thir cyhoeddus cyfagos yn unig

Cam 3: Cadwch yn ddiogel yn ystod y sesiwn casglu sbwriel, gan gadw pellter cymdeithasol a pheidio â chasglu gwastraff peryglus fel nodwyddau hypodermig, cemegau, asbestos, gwydr wedi torri, gwastraff o afonydd. E-bostiwch ni yn [email protected] er mwyn i ni allu ei gasglu’n ddiogel. Peidiwch â symud na chasglu unrhyw dipio anghyfreithlon - rhowch wybod i ni amdano yma

Cam 4: Cofiwch ddidoli unrhyw ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu i fagiau ar wahân, e.e. caniau, plastigau, poteli gwydr, papur a chardbord.

Cam 5: Gadewch y bagiau llawn yn ddiogel ac yn daclus, wedi'u grwpio gyda'i gilydd y tu allan i'ch cartref, ger bin sbwriel neu ffordd neu lwybr y gallwn gael mynediad iddo’n hawdd. Peidiwch â’u gadael ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder dros 30 mya.

Cam 6: Byddwn yn casglu'r sbwriel a gasglwyd gennych ac yn mynd ag ef i'w ailgylchu neu ei waredu'n ddiogel. Cofiwch na allwn gasglu mwy na 10 bag. Os credwch y bydd gennych fwy na 10 bag, rhowch wythnos o rybudd i ni drwy e-bostio [email protected].

Am fwy o wybodaeth ewch i Cadwch Gymru'n Daclus

Diolch am gymryd balchder yng Nghasnewydd a helpu i gadw ein cymunedau yn lân ac yn rhydd o sbwriel