Mae Casnewydd yn cynnal Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru blynyddol ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023.
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn ddigwyddiad partneriaeth rhwng cynghorau, Llywodraeth Cymru, y lluoedd arfog - y Llynges Frenhinol , Y Fyddin a'r Awyrlu Brenhinol - a phartneriaid eraill.
Fel rhan o'r dathliadau ar y diwrnod, fe fydd nifer o bethau'n digwydd yng nghanol y ddinas.
Bydd uchafbwyntiau'r diwrnod yn cynnwys:
10am - Gorymdaith filwrol o'r Stryd Fawr i Sgwâr John Frost
11am – Red Arrows yn hedfan heibio (os bydd y tywydd yn caniatáu)
Tua 11.30am – bydd timau arddangos Parasiwtwyr Teigrod y Fyddin a’r RA Falcons (os bydd y tywydd yn caniatáu)
4pm – bydd y cyngerdd yn dechrau ac yn cynnwys perfformiadau gan y Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol, band Tywysog Cymru, Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Band Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys.