Event Detail

Sesiynau Crefft y Gwyliau

Girl craft image
Dewch i gael eich ysbrydoli gan 'Fosäig y Pedwar Tymor' o Gaerwent Rufeinig yn yr Amgueddfa a gwnewch eich fersiwn eich hun yn ein sesiynau crefft gwyliau am ddim.

Darperir yr holl ddeunyddiau. Mae'r lleoedd yn brin ar gyfer pob un o'r ddwy sesiwn sy'n dechrau am 11am a 12pm ac yn para 45 munud. Caiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Mae'r digwyddiad yn addas ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed a bydd yn cael ei gynnal yn yr Oriel Gelf ar y trydydd llawr.

Cofiwch fod yn rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser a bod angen masgiau ar gyfer y rhai dros 11 oed (oni bai eu bod wedi'u heithrio).

Cesglir manylion cyswllt at ddibenion Profi, Olrhain a Diogelu. Bydd manylion yn cael eu cadw'n ddiogel am 21 diwrnod ac ni fyddant ar gael ond i Wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu'r GIG ar gais.
Lleoliad Amgueddfa ac Oriel Gelf
Pris £0.00
Dyddiad/amser cychwyn Dydd Mawrth 22 Chwefror 2022, 11:00
Dyddiad/amser gorffen Dydd Mawrth 22 Chwefror 2022, 13:00
Cyswllt Newport Museum and Art Gallery
Ffôn 01633 656656
E-bost [email protected]