Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn amser i godi ymwybyddiaeth o’r hawliau sydd gan ofalwyr di-dâl a chydnabod eu cyfraniad amhrisiadwy i’n cymdeithas.
I ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr, rydym yn cynnal Digwyddiad Gwybodaeth gyda phartneriaid lleol. Bydd llawer o wybodaeth a chyngor ar gael i ofalwyr o bob oed a chefndir. Darperir lluniaeth am ddim.