Cyfrif Ar-lein
Gall trigolion Casnewydd weld manylion eu cyfrifon treth gyngor a budd-daliadau, taliadau a gohebiaeth ar-lein.
Hefyd, gall trigolion ddewis defnyddio e-filio er mwyn helpu'r cyngor i leihau costau argraffu, papur a phostio.
I greu cyfrif, ewch i borthol chofrestru i gael cyfrif.
Ar ôl i chi greu cyfrif, gallwch ychwanegu gwasanaethau eraill, fel y dreth gyngor, budd-daliadau addysg a budd-daliadau tai.
I wneud hyn, bydd angen i chi naill ai ateb rhai cwestiynau diogelwch i gadarnhau pwy ydych chi, neu ofyn am gael rhif PIN wedi'i anfon i'ch cyfeiriad cofrestredig.
Os nad ydych chi'n gwybod beth yw'ch cyfeirnod ar gyfer y dreth gyngor neu gyfeirnodau eraill, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd.