Gwybodaeth i Ymwelwyr
Llety Gwesty ar gyfer penwythnos y digwyddiad – ystafelloedd am bris gostyngol
Bydd angen i unrhyw un sy’n archebu llety ddangos ei gerdyn neu fathodyn y Lluoedd Arfog wrth gyrraedd.
Mae'r lleoedd canlynol yn cynnig gostyngiadau:
- Cwrt Coldra, Maenordy a Celtic Manor. Cod hyrwyddo: NWAF23. Gallwch archebu ar-lein ar wefan y Celtic Manor.
- Holiday Inn Express. £75 yr ystafell y noson gan gynnwys TAW, brecwast a wifi. Canslo 4pm diwrnod cyn cyrraedd. I archebu, cysylltwch â'r Gwesty'n uniongyrchol a dyfynnwch gategori cyfradd IPBK6. Fel arall, gallwch archebu lle ar eu gwefan.
Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion lleoedd eraill i aros a phethau i'w gwneud yng Nghasnewydd ar wefan Dinas Casnewydd.
Cau ffyrdd
Ddydd Sadwrn, ar Ddiwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru, bydd Commercial Street, High Street, Griffin Street a Market Street ynghau rhwng 5am a 10am (yn ogystal ag amseroedd arferol i gerddwyr yn unig). Bydd traffig sy'n defnyddio Stow Hill hefyd yn gorfod oedi wrth School Lane wrth i’r orymdaith basio heibio yn y bore.
Parcio
Gwybodaeth am barcio yng nghanol y ddinas (gan gynnwys lleoedd i bobl ag anableddau)