Plant a Phobl Ifanc
Croesewir plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn Llyfrgelloedd Casnewydd.
Bydd staff llyfrgell yn helpu ac yn rhoi cymorth i’ch teulu i garu llyfrau, straeon ac i ddod o hyd i wybodaeth.
Dechrau Da
Nod Dechrau Da yw rhoi pecyn gwybodaeth a llyfrau am ddim i bob babi yng Nghymru.
Yng Nghasnewydd rhoddir y pecyn babi i gofrestryddion a’ch ymwelydd iechyd.
Gall plant rhwng 0-4 oed gasglu sticeri bob tro y maen nhw’n ymweld â’u llyfrgell leol a phan fyddant wedi casglu 4 byddant yn derbyn tystysgrif wedi’i dylunio gan ddarlunydd llyfrau plant.
Llyfr Dechrau a Llyfr cropian
- Nod Llyfr Dechrau Cymru yw rhoi pecyn o wybodaeth a llyfrau am ddim i bob babi yng Nghymru.
- Yng Nghasnewydd mae'r pecyn babanod yn cael ei ddosbarthu gan gofrestryddion a'ch ymwelydd iechyd.
- Darllenwch fwy yma
- Trwy Cropian llyfrau gall plant 0 - 4 oed gasglu sticeri bob tro y byddant yn ymweld â’u llyfrgell leol a phan fyddant wedi casglu 4 maent yn derbyn tystysgrif wedi’i dylunio gan ddarlunydd llyfrau plant.
Mae Darllen yn dda i blant yn darparu gwybodaeth, straeon a chyngor gyda sicrwydd ansawdd i gefnogi iechyd meddwl a lles plant.
Darganfyddwch fwy
Byddi di a dy fabi yn dod yn gyfarwydd gyda caneuon Cymraeg syml, llyfrau bwrdd Cymraeg a dwyieithog, e-lyfrau, apiau a fideos i ddefnyddio adre gyda dy fabi.
Dydd Iau, 2-3pm - Llyfrgell Betws.
Mae’r Goeden Ddarllen wedi'i chreu i'ch helpu i ddewis o leiaf un llyfr y mis i chi eu rhannu â'ch plentyn dros bum mlynedd cyntaf ei fywyd.
Cyfleoedd creadigol i blant sydd â thalent anhygoel mewn ysgrifennu creadigol neu sy’n angerddol dros ddarllen a dweud straeon ac sydd wedi’u henwebu gan yr ysgol.