Parc San Sulien

St Julian's Park - credit Chas Pop

Mae Gwarchodfa Natur Lleol Parc San Sulien yn ardal agored fawr rhwng Christchurch Road a Caerleon Road. Mae maes parcio ar Christchurch Road, Christchurch NP18 1JJ. 

Dynodwyd yr ardal yn Warchodfa Natur Leol ym mis Mehefin 2017

Mae maes parcio ger golygfan Christchurch (Cyfeirnod Grid yr OA: ST 345 892) ac mae mynedfa i gerddwyr ar hyd a lled y safle. 

Y cyfeiriad cynharaf y gwyddys amdano at y safle fel ‘Parc’ a ‘Parc San Sulien’ oedd ym 1583 pan roedd yn cael ei ddisgrifio fel parc ceirw canoloesol.

Caiff rhan o’r coetir ei disgrifio hefyd yn goetir lled-naturiol hynafol, sy’n golygu y bu coetir ar y safle hwnnw ers y 1600au. 

Caiff henebion cofrestredig eu dynodi gan Cadw a’u hamddiffyn trwy ddeddfwriaeth statudol.

Ym Mharc San Sulien ceir bryngaer o’r Oes Haearn, o’r enw Gwersyllfa Coed San Sulien (cyfeirnod grid yr AO: ST340891)), i’r de-ddwyrain o safle ar y drum uwchben Dyffryn Wysg.

Gweler map o Barc San Sulien

Mynediad 

Caiff y maes parcio ger golygfan Christchurch ei ddatgloi yn ystod oriau golau dydd. 

Mae sawl mynedfa i gerddwyr ar hyd a lled y safle o strydoedd preswyl yn ardal San Sulien. 

Nid yw’r llwybrau wedi’u marcio ond mae llawer o lwybrau sathredig heb wyneb i’w dilyn sy’n aml yn fwdlyd ac yn serth mewn mannau – gwisgwch esgidiau gwydn.  

Mae gwasanaethau Bws Casnewydd yn aros wrth y senotaff yn Christchurch ac mae gwasanaethau eraill yn aros ger tafarn St Julian’s ar Heol Caerllion.

Yr hyn sydd i’w weld

Mae Parc San Sulien yn cynnwys coetir collddail cymysg, glaswelltir amwynder ac wedi’i led-wella ac ardaloedd o redyn a phrysgwydd.

O olygfan Christchurch ceir golygfeydd helaeth dros afon Wysg i Gaerllion a’r tu hwnt.

Yn is i lawr o’r olygfan mae darn mawr o laswelltir wedi’i wella ar lethr raddol lle gallech chi weld ffyngau glaswelltir megis y cap du blewog neu’r ffwng croen oren.

Os byddwch yn ymweld yn y gwanwyn, ewch i’r coetir i weld blodau’r gwanwyn a gwrando ar gân yr adar.

Yn yr haf, ceisiwch weld pa flodau gwyllt ac ieir bach yr haf sydd yn yr ardaloedd o laswelltir wedi’i led-wella, ac yn yr hydref bydd y coetir unwaith eto’n lle da i chwilio am ffyngau a gweld lliwiau hydrefol.

Peidiwch ag anghofio’r gaeaf! Mae llawer o adar yn defnyddio’r coetir yma, felly byddai ymweliad yn ystod y gaeaf yn berffaith i wylio adar.  

Coetir collddail- Byddwch yn gweld coed derw, ynn a chyll, gyda blodau’r gwanwyn megis blodau'r gwynt, llygaid Ebrill a chlychau’r gog.

Glaswelltir wedi'i led-wella- Mae’r glaswelltir yng ngogledd-orllewin pellaf y safle, ger Piper Close a Renoir Road, yn enghraifft dda o laswelltir wedi’i led-wella.  

Rhedyn- A hwythau fel arfer yn tyfu ar lethrau bryniau gan fod angen pridd sy’n draenio’n dda arnynt, mae rhedyn yn lledaenu’n gyflym, felly maent yn gallu gorlenwi a mygu cynefinoedd eraill er y gallant fod yn llesol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt mewn mannau bach.  

Glaswelltir amwynder– Nid yw glaswellt sy’n cael ei dorri’n rheolaidd yn gwneud y cynefin gorau i fywyd gwyllt, ond bydd rhai planhigion ac anifeiliaid yn mynd i fyw yno, felly cadwch eich llygaid ar agor.  

Addysg

Ni threfnir ymweliadau addysgol â Pharc San Sulien er bod croeso i ysgolion a grwpiau eraill ymweld â’r safle ar unrhyw adeg.

Gellir gweld nifer o wahanol fathau o gynefin sy’n galluogi cynnal astudiaethau cymharu.

Diogelwch

Mae rhannau o’r safle yn serth ac yn fwdlyd iawn a dylid bod yn ofalus.