Cliriwch eich pen a gwella eich ffitrwydd ar daith gerdded yng Nghasnewydd!
Teithiau cerdded bywyd gwyllt - darganfod planhigion ac anifeiliaid lleol
Taith Gerdded Dyffryn Wysg
Mae Taith Gerdded Dyffryn Wysg yn dilyn dyffryn yr afon am 50 milltir (80 cilometr) rhwng y Ship Inn yng Nghaerllion ac Aberhonddu.
Mae arwyddion ar y llwybr â saethau melyn a chaiff y llwybr ei gynnal a’i gadw gan Gyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir Fynwy ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Llwybr Arfordir Cymru
Llwybr Arfordir Cymru yw’r cyntaf yn y byd i gwmpasu arfordir gwlad gyfan a chafodd ei agor ar 5 Mai 2012.
Lawrlwythwch canllaw i'r llwybr (Saesneg) (pdf).
An accompanying map ar raddfa fwy(pdf) is also available.
Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i gael gwybodaeth am y llwybr cyfan gan gynnwys mapiau y gellir eu lawrlwytho.
Cŵn
- Dylai cerddwyr gadw cwn dan reolaeth agos bob amser pan fyddant yn agos at dda byw - mae'n drosedd caniatau cwn i fynd ar ol neu ymosod ar dda byw
- Dylech bob amser roi baw ci mewn bag a bin a pheidiwch byth a gadael bagiau o faw ci o gwmpas, hyd yn oed os ydych yn bwriadu eu casglu yn nes ymlaen
- Ni ddylai tirfeddianwyr gadw ci peryglus neu fygythiol ar hawl tramwy cyhoeddus - byddwn yn cymryd camau os bydd ci yn atal pobl rhag defnyddio'r llwybr.
Taith Gerdded Casnewydd o’r Ddinas i’r Môr
Agorodd Taith Gerdded Casnewydd o’r Ddinas i’r Môr ym mis Mai 2012 fel rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
Mae’r daith gerdded 8 cilomedr yn cynnwys llethrau, camfeydd, grisiau a thir anwastad.
Mae parcio ar gael ar hyd Stephenson Street neu ym maes parcio Glwyptiroedd Casnewydd.
Taith Gerdded Gylchol y Bont Haearn
Lawrlwythwch ac argraffwch taflen taith gerdded y Bont Haearn (pdf) i gael taith gerdded hunandywysedig yn lleoliad trawiadol Draethan, Castell Rhiwperra a Machen.
Llwybrau beicio
Mae llawer o lwybrau beicio Casnewydd yn wych i gerddwyr hefyd ac yn mynd trwy ardaloedd gwledig a threfol.
Teithiau cefn gwlad
Cafodd y llwybrau hyn sydd wedi’u marcio ag arwyddion eu datblygu gan staff y cyngor ac maent yn cynnwys rhai camfeydd, llethrau ar i fyny ac ar i lawr mwy serth a thir anwastad.
Argymhellir esgidiau cadarn neu esgidiau cerdded bryniau a hefyd potel o ddŵr a ffôn symudol.
Lawrlwythwch y ffolder teithiau cerdded cefn gwlad (pdf) a’r mewnosodiadau teithiau cerdded (pdf).
Lawrlwythwch daflenni yn y gyfres Let’s Walk Newport:
Teithiau Cerdded Bach i Draed Bach (pdf)
Teithiau Cerdded Dechreuol (pdf)
Teithiau Cerdded Heriau Iachus (pdf)
Cerddwr De Gwent
Mae’r grŵp cerdded lleol hwn yn trefnu teithiau cerdded tywysedig ar gyfer pob math o gerddwr – o’r rhai sy’n hoffi crwydro’n hamddenol i bobl sydd am dreulio diwrnod yn y mynyddoedd.
Cynhelir teithiau cerdded bob dydd Sul drwy gydol y flwyddyn ac yng nghanol yr wythnos gyda’r nos yn ystod misoedd yr haf.
Ewch i wefan Cerddwyr De Gwent .