Ymgynghoriad polisi trwyddedu tacsis drafft

Ymgynghoriad ar y polisi trwyddedu tacsis drafft

Daeth i bin 23 Mawrth 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar bolisi trwyddedu drafft sy'n mabwysiadu canllawiau'r Sefydliad Trwyddedu ar benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedeion yn y diwydiant hacni a llogi preifat.

Mae Pwyllgor Trwyddedu a rheolwr trwyddedu'r Cyngor yn ystyried yn rheolaidd addasrwydd a phriodoldeb ymgeiswyr neu ddeiliaid trwyddedau presennol i benderfynu a yw ymgeisydd yn addas a phriodol i fod yn yrrwr cerbyd hacni neu logi preifat, gyda'r nod o ddiogelu'r cyhoedd.

Rhoddir ystyriaeth i euogfarnau troseddol ymgeisydd yn ogystal â materion eraill fel cyhuddiadau, cwynion neu ymddygiad.

Mae'r polisi a fabwysiadwyd gan y cyngor wedi bod ar waith ers 2017 ac yn rhoi canllaw ar drin euogfarnau, rhybuddion a chyhuddiadau troseddol mewn perthynas ag ymgeiswyr newydd a gyrwyr a gweithredwyr cerbydau hacni / llogi preifat presennol.

Mae'r Sefydliad Trwyddedu (IOL) wedi cyhoeddi canllawiau ar y maes cyffredinol hwn ac mae gan y cyngor yr opsiwn bellach o fabwysiadu'r safon a argymhellir.

Mae polisi diwygiedig drafft wedi'i gynhyrchu sy'n cynnwys mesurau ychwanegol yr IOL. Darllenwch Adroddiad yr Aelod Cabinet a’r polisi drafft.

TRA115543 10/02/2020