Gweithredwr llogi preifat

Rhaid i unrhyw berson sy'n gweithredu gwasanaeth llogi preifat sy'n defnyddio cerbydau llogi preifat wneud cais am drwydded gweithredwr cerbydau llogi preifat.

Mae trwydded gweithredwr yn caniatáu i'r gweithredwr wahodd neu dderbyn archebion ar gyfer cerbyd. Rhaid i weithredwr cerbydau llogi preifat sicrhau y caiff pob cerbyd llogi preifat ei yrru gan berson sydd â thrwydded yrru cerbydau llogi preifat.

Gall person neu gwmni cyfyngedig wneud cais am drwydded gweithredwr i weithredu o safle yn ardal Cyngor Dinas Casnewydd. Dyma fydd y safle lle y cedwir cofnodion penodol ac y gall swyddogion awdurdodedig a chwnstabliaid yr heddlu fynd iddo i edrych ar y cofnodion hynny.

Mae dyletswydd ar awdurdodau trwyddedu i ganfod a yw ymgeisydd yn berson 'addas a phriodol' cyn rhoi'r drwydded.

Cyn i chi ddechrau'r broses ymgeisio, dylai'r ymgeisydd sicrhau:

  1. Bod ganddo safle addas yn ardal Cyngor Dinas Casnewydd
  2. Bod gan y safle'r caniatâd cynllunio gofynnol i weithredu’n fusnes gweithredu cerbydau llogi preifat.  
  3. Ei fod yn deall y ddeddfwriaeth berthnasol i weithredu’n weithredwr cerbydau llogi preifat
  4. Ei fod yn deall Amodau Cyngor Dinas Casnewydd.  
  5. Os nad oes ganddo drwydded yrru cerbydau hacni/llogi preifat gyda Chyngor Dinas Casnewydd, bydd gofyn iddo gyflwyno gwiriad cofnodion troseddol wedi'i ddiweddaru.

Os credwch y gallwch gydymffurfio â'r uchod, cyflwynwch y ffurflen gais trwy ein porth gwasanaethau ar-lein

Bydd angen i chi gofrestru cyfrif (nid gwestai)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cyn i chi wneud cais, e-bostiwch [email protected] 

Bydd ffi'r drwydded yn dibynnu ar swm y cerbydau y mae'r ymgeisydd yn dymuno eu gweithredu. Telir y ffi hon ar ddiwedd y broses ymgeisio os bydd y cais yn llwyddiannus.

Adnewyddu trwydded gweithredwr cerbydau llogi preifat

Os oes gennych drwydded gweithredwr ar hyn o bryd, dylech dderbyn pecyn adnewyddu o leiaf chwe wythnos cyn i'r drwydded ddod i ben.

Os nad ydych wedi derbyn eich pecyn adnewyddu, e-bostiwch [email protected].