Asesiadau Hyfywedd ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd

Mae hyfywedd yn ystyriaeth allweddol a fydd yn llywio p’un ai a fydd tir yn cael ei gynnwys yn llwyddiannus yn y CDLl newydd ai peidio.  Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn ei gwneud yn ofynnol i asesiad hyfywedd gael ei gynnal ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol i ddangos a yw'r safle'n hyfyw ai peidio.  Gall peidio â chyflwyno asesiad hyfywedd olygu na fydd eich safle arfaethedig yn cael ei gynnwys yn y CDLl ar adnau lle cynigir datblygu.  Fodd bynnag, os yw'r cynnig yn ymwneud â diogelu tir, ni fydd asesiad hyfywedd yn berthnasol.

Cydnabyddir efallai na fydd sicrwydd bob amser ynghylch pa mor bosib y bydd hi i gyflawni safle’n derfynol hyd nes y ceir gwybodaeth fanylach ynghylch hyfywedd wrth i'r cynllun fynd rhagddo.  Lle bo angen, gall y Cyngor ofyn am ragor o wybodaeth sy’n gymesur â natur a graddfa'r datblygiad arfaethedig, i alluogi'r safle i gael ei asesu'n fanwl o ran ei addasrwydd i'w ddyrannu yn y CDLl ar adnau.

Camau Asesiad Hyfywedd

Mae tri cham o asesiadau hyfywedd ar gyfer CDLl newydd:

Cam 1: Asesiad Cychwynnol o Hyfywedd y Safle (Cam Safle Ymgeisiol)

Dylai'r asesiad hyfywedd cychwynnol nodi mewn modd cymesur a yw'r safle'n hyfyw gan ystyried holl anghenion seilwaith y safle.   Mae gan y Cyngor ddiddordeb cael gwybod a yw'r safle arfaethedig yn hyfyw gan fodloni canllawiau bras gyda digon o allu ariannol i fodloni holl ofynion polisi'r CDLl.  Cynhelir asesiad safle-benodol pellach, a fydd yn ystyried y datblygiad arfaethedig, yn erbyn polisïau’r CDLl newydd, wedi’r Cam Strategaeth a Ffefrir.   

Cam 2: Asesiad Hyfywedd Eang o'r Cynllun Lefel Uchel (Strategaeth a Ffefrir – Y Cam Ar Adnau)

Bydd gwybodaeth a ddarparwyd yng Ngham 1 yn llywio asesiad hyfywedd ar lefel uchel ar draws y cynllun cyfan.  Bydd yr asesiad hwn yn cael ei gynnal i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi e.e. trothwyon tai fforddiadwy, ac ati).

Cam 3: Asesiad Hyfywedd Safle-benodol (Strategaeth a Ffefrir – Y Cam ar Adnau)

Bydd angen asesiadau safle-benodol ar gyfer safleoedd y mae'r Cyngor yn bwriadu eu dynodi o fewn y CDLl.  Bydd y Cyngor yn hysbysu cynigwyr safleoedd ac yn gofyn iddynt am asesiad o'r fath.   Mae’r broses hon er mwyn sicrhau y gall safleoedd sy’n symud ymlaen i’w neilltuo yn y CDLl gwrdd â gofynion polisi newydd a pharhau yn hyfyw ac yn gyflawnadwy.  Codir tâl ar y cam hwn am gael cyrchu’r model hyfywedd ac am amser staff ar gyfer dadansoddi'r wybodaeth hon.

Model Hyfywedd Datblygiad (MHD)

Mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau eraill ar draws y rhanbarth, ochr yn ochr â’r ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygu Trefi Burrows-Hutchinson Ltd, i sefydlu’r offeryn asesu Model Hyfywedd Datblygu (MHD).  Crëwyd y MHD fel model cynhwysfawr hawdd i’w ddefnyddio i gynigwyr safleoedd a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn asesu hyfywedd ariannol cynnig datblygu.   

Mae'n bwysig nodi mai bwriad y Cyngor yw defnyddio'r model hwn ar gyfer yr holl asesiadau hyfywedd sy'n gysylltiedig â'r CDLl newydd, fel rhan o'r Safle Ymgeisiol a'r Strategaeth a Ffefrir - Y Camau ar Adnau.  Felly, byddem yn annog cynigwyr safleoedd i ddefnyddio’r model hwn er mwyn sicrhau cysondeb.  

Mae'r MHD yn offeryn gwerthuso 'safle-benodol' sydd wedi'i gynhyrchu i weithio gyda Microsoft Excel ar gyfer Office 365, sy'n rhedeg ar Microsoft Windows ac fel y nodir ymhellach yn y Canllaw Defnyddiwr cysylltiedig (gweler isod).  Bydd pob copi o'r model a gyhoeddir gan y Cyngor yn cael ei 'gloi' i ymwneud â safle datblygu penodol.  Fodd bynnag, gellir ail-ddefnyddio'r un copi o'r model i asesu mwy nag un senario arfaethedig ar gyfer datblygu'r safle penodol hwnnw.

Mae Canllaw Defnyddiwr (neu lawlyfr cyfarwyddiadau) manwl wedi'i gynhyrchu i ddisgrifio sut mae'r MHD yn gweithio ynghyd ag Atodiad Canllaw i Ddefnyddwyr i adlewyrchu’r fersiwn diweddaraf o’r MHD, ac nodi'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'r defnyddiwr ei mewnbynnu yn y celloedd perthnasol

Mae pob copi o'r MHD hefyd yn cynnwys 'Canllaw Cyflym', sydd wedi'i anelu at y rhai sy'n cynnal asesiad o safle datblygu cwbl breswyl nad yw'n llawer mwy na 5 erw (2 Hectar).  Cynghorir defnyddwyr hefyd bod 'Nodiadau Cymorth' yn rhan annatod o'r model, wedi'u gwreiddio yn y taflenni gwaith eu hunain, sy'n atgoffa'r defnyddiwr beth i'w wneud ar bob dalen.

Darperir isod hefyd ddolenni i rai fideos 'sut i' ar ddefnyddio'r model.   Darperir y rhain fel ffordd arall o helpu'r defnyddiwr i ddeall sut mae'r MHD yn gweithio mewn canllaw cam wrth gam.

Nid oes ffi i ddefnyddio’r MHD yn yr alwad gychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol.  Cynigir mai dim ond yng Ngham 3 y ceisir ffi am ddefnyddio'r model ar gyfer y safleoedd hynny lle mae'r Cyngor yn gofyn am wybodaeth o'r fath.

Gellir cael copi o'r MHD, ac ar gyfer unrhyw ymholiadau am yr MHD yn gyffredinol, drwy gysylltu â Thîm Polisi Cynllunio'r Cyngor ar [email protected].

1. Cyflwyniad

2. Trosolwg Preswyl 

3. Elfennau Preswyl 

4. Costau

5. Arfarnu a Llif Arian