Caniatâd cynllunio

Glan_Llyn_October_2014 (1)

Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob math o waith adeiladu, peirianegol neu fwyngloddio neu newid defnydd adeilad neu dir oni bai bod y gwaith yn ddatblygiad a ganiateir o fewn deddfwriaeth gynllunio. 

Darllenwch am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol

Corff Cymeradwyo Draeniau Cynaliadwy (SAB)

1. Oes angen i mi wneud cais am ganiatâd cynllunio?

 Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer "datblygiadau” fel y'u diffinnir yn Adran 55 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.

Fel arfer, caniateir Datblygiad naill ai gan Orchymyn Datblygu, megis Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir Cynllunio Gwlad a Thref 1995 (fel y'i diwygiwyd) (a elwir yn "Ddatblygiad a Ganiateir") neu drwy gais i'r Awdurdod Cynllunio Lleol. 

Datblygiad a Ganiateir -  cyngor

Mae hawliau datblygiad a ganiateir yn nodi'r amodau a'r cyfyngiadau sy'n rheoli estyniadau a newidiadau i'ch tŷ a gweithiau eraill o fewn cwrtil eich eiddo megis codi adeiladau allanol a darparu arwynebau caled.

Sylwer bod y Rheoliadau yn wahanol yng Nghymru a Lloegr ac mae'n bwysig eich bod yn ystyried Rheoliadau Cymru.

Dan ddatblygiad a ganiateir, mae'n bosib y byddwch yn gallu gwneud gwaith heb fod angen gwneud cais ffurfiol am ganiatâd cynllunio.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor ac arweiniad ar ei gwefan ynghylch datblygiad a ganiateir ar gyfer aelwydydd ac ar brosiectau cyffredin

Mae’r Porth cynllunio hefyd yn rhoi cyngor ychwanegol.

Er bod yr adnoddau a grybwyllwyd yn flaenorol yn rhoi arweiniad da, mae bob amser yn rhesymol gwirio eich cynigion yn erbyn y ddeddfwriaeth yn uniongyrchol er mwyn sicrhau bod yr hyn a gynigir yn gyfystyr â datblygiad a ganiateir. 

Daeth y broses ymholiadau datblygiad a ganiateir i aelwydydd, gyda ffi gysylltiedig o £25 a’r ffurflen ymholiad datblygiad a ganiateir, i ben ar 1 Ebrill 2023.

Fodd bynnag, mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn darparu gwasanaeth Swyddog Cynllunio ar Ddyletswydd i ddarparu cyngor cyffredinol, anffurfiol ar ymholiadau cynllunio cyffredinol ar ddydd llun (wyneb yn wyneb neu dros y ffôn) a dydd Iau (dros y ffôn yn ystod yr oriau a nodir ar y dudalen Cysylltu â’r Tîm Cynllunio).

Dylid cyfeirio cyngor penodol ar geisiadau cynllunio at y swyddog achos fydd yn gyfarwydd â'r cynigion.

Mae unrhyw gyngor a roddir gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cynrychioli barn anffurfiol Swyddog ac nid yw'n gyfreithiol rwymol ar y Cyngor. Am benderfyniad sy'n gyfreithiol rwymol ar faterion datblygiadau a ganiateir, rhaid i chi wneud cais am Dystysgrif Gyfreithlonrwydd

Cyn dechrau ar unrhyw waith mae rhaid i chi sicrhau bod gennych bob caniatâd angenrheidiol mewn lle (gan gynnwys Rheoliadau Adeiladu). Gallai unrhyw ddatblygiad s wneir heb ganiatâd cynllunio fod yn agored i gamau gorfodi ac erlyniad gan y cyngor wedyn.

2. Cyngor cyn-ymgeisio

Os oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio trwy gais ar gyfer eich cynnig, byddai'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell yn gryf i chi ofyn am Gyngor Cyn ymgeisio cyn gwneud cais yn ffurfiol, er bod tâl am y gwasanaeth hwn. Mae rhagor o ganllawiau a thaliadau i'w gweld ar ein Tudalen cyngor cyn gwneud cais

Bydd Cyngor cyn gwneud cais yn rhoi canllawiau ar rinweddau cynnig sy'n cael ei ystyried yn erbyn polisïau cynllunio perthnasol, yn hytrach na chynghori a oes angen cais am ganiatâd cynllunio ai peidio. 

O dan ddyletswydd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhaid i'r Cyngor geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.

Mae Nod Cymru Gydnerth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn nodi: “Cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy'n cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a'r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

”Mae Cynllun Cenedlaethol Cymru'r Dyfodol yn cynnwys Polisi 9: “... Ym mhob achos, rhaid dangos camau tuag at sicrhau cynnal a gwella bioamrywiaeth (er mwyn darparu budd net), gwydnwch ecosystemau ac asedau seilwaith gwyrdd fel rhan o gynigion datblygu drwy ddulliau arloesol, seiliedig ar natur o gynllunio safleoedd a dyluniad yr amgylchedd adeiledig.”

Bydd darparu nodweddion gwella bioamrywiaeth yn gymesur â graddfa, lleoliad a natur y datblygiad a bydd yn ymateb i unrhyw wybodaeth a ddarperir mewn Adroddiadau ac Arolygon Ecolegol ynghylch effeithiau negyddol posibl y datblygiad a'r cyfleoedd ar gyfer gwella bioamrywiaeth y mae'r datblygiad arfaethedig yn ei gynnig.

Mae'n bwysig bod datblygwyr ac ymgeiswyr yn ystyried y gofynion hyn wrth wneud eu ceisiadau. Mae rhagor o ganllawiau yn ymwneud â hyn ar gael yma.

3. Gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Cysylltu

Cysylltwch â’r gwasanaethau cynllunio yng Nghyngor Dinas Casnewydd.