Gwastraff ac Ailgylchu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff

Rydym wedi dechrau casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu (neu “sbwriel”) o gartrefi bob tair wythnos, yn hytrach na phob pythefnos.

Gwnaethom dreialu’r newid hwn i dua 11,000 o gartrefi yn haf 2023 a byddwn yn cwblhau’r broses o’i gyflwyno erbyn diwedd hydref 2023.

Cyn i’r newid ddigwydd yn eich ardal chi, byddwn yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau’r dyddiad y byddwn yn gwneud y newid hwn, a dweud wrthych beth yw eich dyddiadau casglu newydd ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Byddwn yn parhau i gasglu eich gwastraff o’r ardd bob pythefnos nes bydd y gwasanaeth yn dod i ben ar gyfer cyfnod y gaeaf ar ddiwedd mis Tachwedd 2023. Pan fyddwn yn ailgychwyn y gwasanaeth casglu hwn ar ddiwedd mis Chwefror 2024, byddwn yn casglu eich gwastraff o’r ardd bob tair wythnos, yn hytrach na bob pythefnos. Gwiriwch eich dyddiadau casglu newydd yn nes at yr amser, trwy ymweld â'n gwefan neu gysylltu â ni.

Byddwn yn parhau i gasglu eich:

  • gwastraff bwyd ac ‘ailgylchu sych’ bob wythnos, a
  • gwastraff cewynnau a hylendid bob pythefnos, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu hwn.

Mae eich ‘ailgylchu sych’ yn cynnwys eich:

  • poteli a jariau gwydr, ac eitemau trydanol bach,
  • metelau a phlastigion cymysg, yn cynnwys:
    • caniau, tuniau, erosolau a ffoil metel,
    • poteli, tybiau a photiau plastig, a
    • cartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak a thiwbiau creision),
    • cardbord a phapur, a
    • dillad.

Os ydych chi’n byw mewn fflat, neu dŷ amlfeddiannaeth (hynny yw, fflat neu dŷ a rennir), gyda biniau cymunedol, fe wnawn ni weithio gyda chi a’ch landlord i gyflwyno’r newidiadau i’ch casgliadau gwastraff o’r ardd (pan fo’n berthnasol) a gwastraff na ellir ei ailgylchu. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am unrhyw newidiadau i’ch casgliadau cyn iddynt ddigwydd.

Cysylltwch ag aelod o'n tîm ymgysylltu a gorfodi pwrpasol i gael cyngor ac arweiniad i'ch helpu i ailgylchu'n fwy effeithiol.

Cysylltwch ag aelod o'n tîm ymgysylltu a gorfodi

Pam rydym yn gwneud y newidiadau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i gynghorau Cymru ailgylchu 70 y cant o’u gwastraff o’r cartref erbyn 2025.

Ac er bod cyfraddau ailgylchu yng Nghasnewydd wedi gwella’n sylweddol yn y 15 mlynedd ddiwethaf, wedi codi o 20 y cant i 67 y cant – a Chasnewydd yn dod yn un o ddinasoedd gorau’r Deyrnas Unedig (DU) o ran perfformiad – mae angen inni gynyddu ein cyfradd ailgylchu ymhellach er mwyn osgoi gorfod talu dirwy fawr.

Yn seiliedig ar ein perfformiad ailgylchu ar hyn o bryd, gallem gael dirwy o fwy na £0.5M ar gyfer bob blwyddyn y byddwn yn methu â chyrraedd y targed hwn.

Hefyd, rydyn ni’n gwario mwy na £2.2M ar gael gwared â gwastraff na ellir ei ailgylchu bob blwyddyn, ond mae data newydd yn dangos y gellid bod wedi ailgylchu bron i 40 y cant ohono gartref yn hawdd.

Mae mwy nag un filiwn o gartrefi yn y DU, a thua 11,000 o gartrefi yng Nghasnewydd, eisoes yn derbyn casgliadau llai aml ar gyfer eu gwastraff na ellir ei ailgylchu ac mae hyn wedi arwain at welliannau i gyfraddau ailgylchu.

Os byddwch yn sortio eich gwastraff ac yn ailgylchu cymaint ag y gallwch gan ddefnyddio ein casgliadau ailgylchu ar wahân bob wythnos, bydd gennych lai o sbwriel dros ben i’w roi yn eich bin gwastraff na ellir ei ailgylchu.

O gasglu eich gwastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu, a’ch gwastraff o’r ardd, yn llai aml, byddwn hefyd yn gallu lleihau’r adnoddau y mae eu hangen arnom i’w gasglu a’i drin, yn cynnwys amser staff a thanwydd i’n cerbydau. Rydyn ni’n amcangyfrif y bydd y newidiadau rydyn ni’n eu gwneud yn arbed tua £320K bob blwyddyn.

A gan leihau’r pellter a deithiwn, bydd hefyd yn lleihau’r llygredd a gaiff ei allyrru gan gerbydau ac yn lleihau ein hallyriadau carbon, sy’n helpu i atal newid hinsawdd.

Pan fyddwn yn ailgylchu’r eitemau hyn a’u troi’n eitemau newydd, rydym yn defnyddio llai o ynni o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘newydd’ neu ddeunyddiau ‘crai’.

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau, darllenwch ein cwestiynau cyffredin.

 
Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn…
Gwastraff gardd Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon a sbwriel Siop Ail Gyfle
Banciau ailgylchu Gwastraff masnach Casgliadau â chymorth
Canllawiau ar Gasgliadau Gwastraff ac Ailgylchu Domestig
Ailgylchu ymyl y pafin Prosiect Gwyrdd