Gwastraff Gardd
Mae biniau gwastraff gardd (â chaeadau oren) yn cael eu darparu am ddim gan Gyngor Dinas Casnewydd i gartrefi sydd â gardd.
Rhaid eu defnyddio ar gyfer gwastraff gardd yn unig a'u rhoi allan i'w casglu erbyn 7am.
Atelir casgliadau gwastraff gardd dros y gaeaf.
Bydd casgliadau gwastraff gardd olaf 2020 rhwng dydd Llun 16 a dydd Gwener 27 Tachwedd gan ail-ddechrau ar 1 Mawrth 2021.
Os gwelwch yn dda...
|
Dim diolch...
|
|
Toriadau porfa
|
Unrhyw blastig e.e. bagiau, potiau, polystyren
|
|
Toriadau perthi
|
Pridd, tywyrch, cerrig a rwbel
|
|
Toriadau llwyni a choed
|
Unrhyw wastraff y cartref
|
|
Canghennau a brigau bach
|
Chwyn niweidiol e.e. clymog Japan (Japanese knotweed)
|
|
Dail a ffrwythau o'r ardd
|
Gwastraff bwyd - bydd angen i ffrwythau o siop/anghenion cynnyrch cegin fynd yn y cadi brown ar gyfer gwastraff bwyd
|
|
Deunydd gwely cwningod, moch cwta, anifeiliaid anwes bach llysysol
|
Baw anifeiliaid
|
|
Planhigion, blodau wedi'u torri a chompost potiau
|
Cardbord, defnyddiwch eich blwch neu fagiau ailgylchu cardbord
|
Ni ellir gwacáu eich bin gwastraff gardd:
- os yw'n cynnwys yr eitemau a restrir uchod na ddylai fod ynddo
- os yw'n cynnwys bagiau - dylai gwastraff gardd fod yn rhydd ac nid mewn bagiau
- os yw'n rhy drwm neu'n rhy llawn i'w wacáu
Os yw'ch bin yn cynnwys eitemau anghywir, bydd tag yn cael ei roi ar ddolen y bin yn rhoi gwybod i chi.
Tynnwch yr eitemau hynny allan o'r bin a rhowch ef yn barod i'w wacáu ar y diwrnod casglu nesaf arferol.
Gwastraff gardd ar ôl ei gasglu...
Mae gwastraff gardd Casnewydd yn cael ei anfon i gyfleusterau compostio lle y caiff ei droi'n gyflyrydd pridd sy'n addas i'w ddefnyddio ar dir amaethyddol ac wrth dirweddu.
Mae dargyfeirio gwastraff gardd o safleoedd gwastraff y cartref a thirlenwi yn arwain at fuddion amgylcheddol ac ariannol ac mae'n helpu i wella perfformiad ailgylchu Cyngor Dinas Casnewydd.
TRA91523 26/09/2018