Tipio Anghyfreithlon a Sbwriel
Bydd y Cyngor yn clirio tipio anghyfreithlon o dir cyhoeddus, cyfrifoldeb perchenogion tir yw ei glirio os ydyw ar dir preifat.
Os gwelwch dipio anghyfreithlon defnyddiwch y ffurflen isod i ddweud wrthym, mae angen i ni wybod:
- Ble mae’r tipio anghyfreithlon
- Beth sydd wedi cael ei dipio a faint ohono sydd
- a welsoch chi hynny'n digwydd a manylion am y person neu'r cerbyd os oes gennych
Gallai unrhyw un a geir yn tipio'n anghyfreithlon wynebu dirwy o £50,000 a hyd at 12 mis yn y carchar.
Yn dilyn collfarn, mae'r ddirwy yn ddiderfyn yn Llys y Goron ac uchafswm cyfnod y carchar yw pum mlynedd.
Diogelu eich hun
Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar bob aelwyd yng Nghasnewydd i waredu ei gwastraff yn briodol.
Os bydd rhywun yn casglu eich gwastraff ac yn ei dipio’n anghyfreithlon, gallech chi gael eich dal yn gyfrifol am hynny a wynebu dirwy.
Cofiwch
-
Dylech bob amser ofyn i weld tystysgrif cludydd gwastraff, a pheidiwch â defnyddio contractwyr gwastraff sy’n gwrthod dangos tystysgrif wreiddiol i chi
-
Dylech gadw cofnod o fanylion y cludydd gwastraff rhag ofn ei fod yn tipio eich gwastraff yn anghyfreithlon a bod y gwastraff yn cael ei olrhain yn ôl i chi
-
Rhaid i fusnesau bob amser gael copi o nodyn trosglwyddo gwastraff gan y person sy’n cludo’r gwastraff i ffwrdd
TRA114130 15/1/2020