Archebu bagiau a biniau newydd
Gwneud cais am finiau, bagiau a blychau ailgychu
Gallwch hefyd gasglu bagiau cadi bwyd o’ch llyfrgell leol, yr Orsaf Wybodaeth a, rhwng dydd Llun a dydd Gwener o 8am tan 6pm, o’r brif dderbynfa yn y Ganolfan Ddinesig.
Biniau gwastraff mawr
Caiff aelwydydd sy’n cynnwys chwech o bobl neu fwy ofyn am fin gwastraff mwy.
Gwneud cais am fin gwastraff mwy
Casgliadau cewynnau a gwastraff hylendid
Gall trigolion sy’n defnyddio padiau anymataliaeth neu sydd â chyflyrau iechyd sy’n creu gwastraff tebyg wneud cais am gasgliad ychwanegol ar gyfer gwastraff hylendid.