Cymorth gyda chostau gofal plant

Family Information Service logo_June 2018

Mae costau gofal plant yn ddrud. Ar y dudalen hon cewch wybodaeth am gymorth ariannol allai ei wneud yn fwy fforddiadwy. 

Mae’n bosib bod cymorth lleol ar gael fel lleoedd â chymorth, neu gynlluniau cyfeirio ar gyfer anghenion ychwanegol - gweler isod.

E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch  01633 210842 am gyngor a chymorth. 

Trwy Gynnig Gofal Plant Cymru, fe allech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn. Nod y cynllun gofal plant hwn a ariennir gan y llywodraeth yw lleihau baich costau gofal plant.

Credydau treth – Gall y Credyd Treth Plant a’r Credyd Treth Gwaith helpu teuluoedd â phlant a phobl sy’n gweithio sydd ar incwm isel. 

Talebau gofal plant -  gall talebau gofal plant sy’n ildio cyflog wedi’i gefnogi gan y cyflogwr gynnig arbedion ar dreth ac Yswiriant Gwladoli rieni sy’n defnyddio gofal plant cymwys. (peidio â derbyn ymgeiswyr newydd mwyach)

Credyd Cynhwysol – Budd-dal yw’r Credyd Cynhwysol ar gyfer pobl heb waith neu ar incwm isel. Mae’n disodli chwe budd-dal sy’n ymwneud â gwaith ac sydd ar sail incwm, fel y Credyd Treth Planta’rCredyd Treth Gwaith  

Cynllun gofal plant di-dreth – mae’r cynllun gofal plant di-dreth yn rhoi help gyda chostau gofal plant i deuluoedd sy’n gweithio  

Myfyrwyr

Mae’n bosib y gall myfyrwyr mewn addysg uwch sy’n gymwys hawlio cymhorthdal gofal plant. Darllenwch fwy ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae’n bosib y gall myfyrwyr mewn addysg bellach yng Nghymru hawlio cymorth gyda chostau gofal plant gan y Gronfa Wrth Gefn Ariannol. Gofynnwch am wybodaeth yn swyddfa cymorth i fyfyrwyr eich coleg.

Rhieni, gofal plant a chyflogaeth (PaCE)

Gall rhieni cymwys sydd heb waith ac sy’n ei chael hi’n anodd dechrau hyfforddiant neu waith oherwydd gofal plant, gael cymorth gan ’PaCE - rhaglen wedi'i hariannu gan Ewrop.

Oedolion sy’n gofalu am blentyn o dan 12 

Mae’n bosib bod hawl gennych i dderbyn credydau Yswiriant Cenedlaethol os ydych yn dad-cu neu’n fam-gu neu aelod arall o’r teulu yn gofalu am blentyn o dan 12, fel arfer tra bo’r rhiant neu’r prif ofalwr yn gweithio. 

Cynllun atgyfeirio anghenion ychwanegol

Gall y cynllun atgyfeirio anghenion ychwanegol gynorthwyo teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd deall ymddygiad, gweithredoedd neu anghenion eu plant, drwy eu helpu i ddod o hyd i grŵp chwarae neu feithrinfa addas.

Cynllun Cymorth Lleoedd

Mae’r cynllun cymorth lleoedd yn helpu teuluoedd sy’n byw mewn caledi ariannol i ddod o hyd i ofal plant fel eu bod yn gallu gweithio neu edrych am waith neu hyfforddiant.