Gofal plant
Dan Ddeddf Gofal Plant 2006, mae’n rhaid i bob cyngor yng Nghymru gynnig gofal plant digonol er mwyn ateb gofynion rhieni’r ardal.
- Mae meithrinfeydd yn cynnig gofal yn ystod y diwrnod gwaith i blant o 0 i 5 oed.
- Dylai bod darpariaeth chwarae ac offer addas ar gael yn ogystal â mynediad i safle chwarae diogel yn yr awyr agored.
- Mae rhai meithrinfeydd yn cynnig addysg y blynyddoedd cynnar rhan-amser wedi ei ariannu gan yr awdurdod lleol o’r tymor wedi pen-blwydd y plentyn yn dair oed.
- Mae clybiau'r tu allan i’r ysgol yn cynnig gofal a chyfleoedd chwarae i blant rhwng 3 a 14 oed y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod y gwyliau.
- Mae'n rhaid hebrwng plant dan 8 i’r clwb a’u casglu oddi yno.
- Mae grwpiau chwarae a chylchoedd meithrin yn cynnig gofal rhan-amser ar gyfer plant o 2 ½ i 5 oed.
- Maent ar agor yn ystod tymor yr ysgol ac mae pob sesiwn yn parhau dim mwy na 4 awr.
- Maent yn cynnig profiadau dysgu trwy chwarae strwythuredig mewn grwpiau ac mae’r cylchoedd meithrin yn cynnig profiadau cyn ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Dylai fod ystod addas o gyfleusterau ac offer chwarae ar gael yno.
- Gall rhai grwpiau chwarae a chylchoedd meithrin gynnig addysg y blynyddoedd cynnar rhan amser, wedi ei ariannu gan y cyngor lleol o'r tymor wedi pen-blwydd y plentyn yn dair oed.
Mae crèche yn cynnig gofal plant achlysurol ar gyfer plant dan 8 oed ac mae angen iddo gofrestru os yw’n weithredol am fwy na 2 awr y dydd, hyd yn oed pan fo plant unigol yno am gyfnodau byrrach.
Bydd nani yn gofalu am eich plentyn yn eich cartref eich hun a does dim rhaid iddi gofrestru gydag awdurdod lleol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag asiantaeth ag enw da.
Rhagor o wybodaeth
Lawrlwythwch wybodaeth am Ddewis Gofal Plant (pdf)
Lawrlwythwch Sut mae dewis gofal plant o safon (pdf)
Lawrlwythwch wybodaeth am gymorth i rieni a chymorth ariannol gyda chostau gofal plant (pdf)
Darllenwch Asesiad Digonedd Gofal Plant 2014 (pdf)
Cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd cyfagos i gael manylion am wasanaethau gofal plant yn yr ardaloedd hyn:
GiD Torfaen 0800 0196 3300
GiD Caerdydd 029 2035 1700
GiD Caerffili 01443 863232
GiD Sir Fynwy 01633 644527