Ardaloedd risg llifogydd

Mae ffurflen 1app yn gofyn i'r rhai sy'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio (ond nid ceisiadau gan berchentywyr) ystyried yr angen am asesiad canlyniadau llifogydd os yw safle'r datblygiad o fewn ardal risg llifogydd. 

Bydd ceisiadau cynllunio sy'n datgan yn anghywir nad yw'r safle o fewn ardal risg llifogydd neu sydd heb ddarparu asesiad o ganlyniadau llifogydd pan fydd angen eglur am asesiad, yn cael eu hystyried yn annilys. 

Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15

Mae dogfennau risg llifogydd a dogfennau cysylltiedig yn rhoi cyngor ar ffurf a chynnwys asesiad canlyniadau llifogydd, a rhaid i ymgeiswyr ystyried hyn. 

Mae'n bolisi i wrthwynebu datblygiad ym mharth C nad yw'n bodloni'r profion cyfiawnhad sydd wedi'u cynnwys yn adran 6 y Nodyn Cyngor Technegol, ac mae'n bolisi i wrthwynebu datblygiadau risg uchel iawn a gwasanaethau brys yn ardaloedd risg llifogydd C2.

Bydd angen i ddatblygiadau risg is ym mharth C2 a phob datblygiad yn ardaloedd risg llifogydd C1 basio'r prawf cyfiawnhad a darparu asesiad o ganlyniadau llifogydd gan berson sydd wedi'i gymhwyso'n briodol, yn unol â gofynion y Nodyn Cyngor Technegol.

Mae'n rhaid i bawb sy'n gwneud cais am ddatblygiad risg uchel iawn ym mharth C1 ystyried y ddogfen hon sy'n amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru ynghylch asesiadau o'r fath.

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd, fel awdurdod cynllunio lleol, hefyd yn disgwyl gweld:

  • Data modelu sy'n dangos buanedd, cyflymder codi a dyfnder llifogydd ar draws llwybrau dianc/gwacáu sydd wedi'u nodi'n glir, ym mhob achos o lifogydd a dadansoddiad cysylltiedig
  • Cyflymder a chyfnod y llif ar gyfer pob digwyddiad llifogydd ar y safle ac ar draws llwybrau dianc neu wacáu, a dadansoddiad cysylltiedig. 

Rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth sy'n galluogi'r awdurdod cynllunio lleol i benderfynu ar gyfnodau tebygol o gyfyngiant os bydd y safle a/neu lwybrau dianc wedi'u gorlifo i ddyfnderoedd a/neu fuaneddau uwchlaw'r trothwyon a nodir yn TAN15.