Cofrestru genedigaeth

Llongyfarchiadau ar enedigaeth eich babi. Rydyn ni'n gwybod bod hwn yn gyfnod prysur i chi.  Cofiwch fod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi gofrestru eich babi o fewn 42 diwrnod. 

Cofrestrir genedigaethau drwy apwyntiad yn unig.  Dylech gyrraedd ar yr amser a neilltuwyd.  Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr efallai na fyddwn yn gallu eich gweld ac efallai y bydd yn rhaid aildrefnu eich apwyntiad.

Defnyddiwch y ddolen isod i wneud cais am apwyntiad a byddwn yn cysylltu â chi i drefnu dyddiad ac amser addas.


Gwaith partneriaeth Gwent

Mae trefniadau newydd wedi'u gwneud ar gyfer pob genedigaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Gwent neu Aneurin Bevan. 

Mae’r pum awdurdod lleol sef Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen yn cydweithio er mwyn i chi allu mynd i'ch swyddfa leol i gwblhau'r cofrestriad a phrynu tystysgrif geni eich babi tra byddwch yn mynychu’r apwyntiad hwnnw.  

Os hoffech ddod i Swyddfa Gofrestru Casnewydd, llenwch y ffurflen ymholi ar-lein isod a byddwn yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad. 

I ddefnyddio'r ffurflen hon, gallwch naill ai fewngofnodi neu greu cyfrif, neu ddefnyddio'r opsiwn 'Gwestai' ar waelod ochr chwith y ffurflen. 

Cais am apwyntiad i gofrestru genedigaeth

Os byddai'n well gennych fynd i Swyddfa Gofrestru arall yn ardal Gwent, ewch i wefan yr awdurdod lleol hwnnw neu e-bostiwch: 

Pwy all gofrestru'r enedigaeth?

Os yw rhieni'r plentyn yn briod â'i gilydd ar adeg yr enedigaeth, gall y naill riant neu'r llall gofrestru'r enedigaeth. 

Os nad yw'r rhieni'n briod, ni all manylion y tad gael eu cofnodi ar y gofrestr oni bai bod y ddau riant yn mynd i gofrestru'r enedigaeth gyda'i gilydd.

Os nad yw hyn yn bosibl, cysylltwch â'r swyddfa gofrestru i gael cyngor.

Bydd y rhieni sydd wedi'u henwi ar y gofrestr yn cael cyfrifoldeb rhiant am y plentyn yn awtomatig.

Ewch i dudalen y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar Gyfrifoldeb Rhieni i gael rhagor o wybodaeth.

Os nad yw manylion y tad wedi'u cofnodi adeg cofrestru, mae'n bosibl y gellir gwneud hynny'n ddiweddarach trwy ailgofrestru.

I sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei chofnodi ar y gofrestr, dylai rhieni'r baban ddod ag o leiaf un o'r dogfennau adnabod canlynol gyda nhw:

  • pasbort
  • bil y dreth gyngor
  • trwydded yrru
  • pob tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
  • tystysgrif geni
  • gweithred newid enw
  • papurau rhyddhau o'r ysbyty

DS - gall y Cofrestrydd gofrestru'r enedigaeth heb y dogfennau hyn

Gwybodaeth y mae ei hangen i gofrestru genedigaeth

Y baban

  • dyddiad a lleoliad geni'r baban
  • os ganed gefeilliaid neu dripledi ac ati, yna bydd angen amser geni pob baban
  • a yw'r baban yn fachgen neu ferch
  • yr enw(au) cyntaf a'r cyfenw a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y baban

Y tad

(pan fydd y manylion hyn yn cael eu cofnodi ar y gofrestr)

  • enw cyntaf a chyfenw ac unrhyw enwau eraill a allai gael eu defnyddio
  • dyddiad a lleoliad geni
  • cyfeiriad cartref ar adeg geni'r baban
  • galwedigaeth adeg geni'r baban neu, os nad yw'n gweithio, ei alwedigaeth flaenorol

Y fam

  • enw cyntaf a chyfenw, ac unrhyw gyfenwau a allai fod wedi cael eu defnyddio cyn priodi
  • dyddiad a lleoliad geni
  • cyfeiriad cartref ar adeg geni'r baban
  • galwedigaeth adeg geni'r baban neu, os nad yw'n gweithio, ei galwedigaeth flaenorol
  • dyddiad priodi, os yw'n berthnasol
  • nifer y plant blaenorol gan y tad presennol ac unrhyw ŵr blaenorol
  • nifer plant blaenorol y fam gan ei gŵr presennol neu unrhyw gyn-ŵr (i) a aned yn fyw (gan gynnwys unrhyw rai sydd wedi marw ers hynny) ac (ii) a oedd yn farw-anedig

Mae'n bwysig bod y wybodaeth a gofnodir ar y gofrestr yn gywir a bod y cofnod ar y gofrestr yn cael ei wirio'n ofalus iawn cyn i chi lofnodi, gan na ellir cywiro camgymeriadau'n rhwydd.  

Tystysgrifau

Ar ôl cofrestru, cewch dystysgrif geni fer yn rhad ac am ddim. Gallwch brynu copïau o dystysgrifau byr a llawn am ffi ar yr adeg gofrestru neu yn ddiweddarach.

Gallwch lawrlwytho ac argraffu cais am Dystysgrif Geni (pdf) os bydd angen copïau o'r dystysgrif yn y dyfodol.

Gofyn am gopïau o dystysgrifau

Rhagor o wybodaeth

Ewch i Direct.gov i gael rhagor o wybodaeth am gofrestru genedigaeth. 

Gweler hefyd y dudalen seremonïau enwi.