Seremonïau enwi

Mae seremoni enwi yn ddigwyddiad ffurfiol sy'n rhoi cyfle i rieni, a rhieni-cu, os ydynt yn dymuno, groesawu aelod newydd o'r teulu.

Gofynnir i rieni ddatgan eu cariad a'u hymrwymiad i'w plentyn yn gyhoeddus, gerbron teulu a ffrindiau.

Os oes oedolion eraill yr ydych am iddynt gael perthynas arbennig o ddylanwad ar fywyd eich plentyn, gallwch eu cynnwys yn y seremoni. Mae'r rhain yn cael eu galw'n oedolion cefnogol.

Y Gweinydd

Bydd Gweinydd Gwasanaeth Cofrestru Casnewydd yn cynnal y seremoni yn unol â'ch dewisiadau.

Ni fydd y gweinydd sy'n arwain y seremoni yn gweithredu mewn unrhyw rinwedd swyddogol, hyd yn oed os yw'n gweithio hefyd fel Cofrestrydd.

Bydd y gweinydd wedi cael hyfforddiant a bydd ganddo brofiad o gynnal llawer o wahanol seremonïau, felly gofynnwch am ei gyngor ar unrhyw beth rydych yn ansicr yn ei gylch.

Seremonïau crefyddol

Sylwch fod seremonïau enwi yn rhai seciwlar ac nad ydynt yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau crefyddol.

Os ydych yn dymuno cynnal seremoni grefyddol, cysylltwch â'ch eglwys neu gymuned grefyddol leol.

Y seremoni

Mae chwe rhan hanfodol i seremonïau enwi:

  • cyflwyniad a chroeso
  • darlleniad
  • enwi'r plentyn (neu'r plant)
  • addewidion y rhieni
  • addewidion yr oedolion cefnogol
  • geiriau i gloi

Gallwch ddewis ychwanegu adrannau, gan fod sawl ffordd o wneud seremoni eich plentyn yn ddigwyddiad unigryw a phersonol iawn.

Fel arfer, mae'r seremoni yn cymryd tua 15 munud ond gall bara hyd at 30 munud os caiff rhagor o ddarlleniadau ac opsiynau eu cynnwys.

Bydd cofnod i'w gadw o'r seremoni yn cael ei lofnodi gan y rhieni, yr oedolion cefnogol a'r gweinydd.

Lleoliadau

Gall seremoni enwi gael ei chynnal yn Swyddfa Gofrestru Casnewydd neu mewn lleoliad cymeradwy yng Nghasnewydd.

Costau

Rhaid talu ffi o £70.00 ar yr adeg drefnu; ni chaiff y ffi hon ei had-dalu.

Bydd y ffioedd i'r gweinydd fynychu eich seremoni yn amrywio yn ôl y diwrnod o'r wythnos a'r lleoliad o'ch dewis.

Darllenwch ragor am ffioedd.

Trefnu'r seremoni

Gall unrhyw riant wneud y trefniadau, neu unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn neu warcheidwaeth gyfreithiol ohono.

Nid oes rhaid i'r rhieni fod yn briod a gall plant o bob oedran gael seremoni enwi.

Yn achos ymholiadau am seremonïau enwi neu i drefnu cyfarfod cyn y seremoni, cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Casnewydd.

Hysbysiad pwysig

Nid oes gan y seremoni enwi nac unrhyw dystysgrif coffa unrhyw statws cyfreithiol.

Gallwch newid enw cyntaf plentyn os oes gennych gyfrifoldeb rhiant am y plentyn yn unig, ac, fel arfer, dylech gael cytundeb rhiant arall y plentyn.

Bydd gan fam naturiol plentyn gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig.

Yn achos genedigaethau a gofrestrwyd ar ôl 1 Rhagfyr 2003, mae gan y tad naturiol gyfrifoldeb rhiant hefyd os yw'n briod â'r fam neu os gwnaeth lofnodi'r gofrestr genedigaethau yn ogystal â'r fam.

Os oedd y fam wedi cofrestru'r enedigaeth ar ei phen ei hun, ni fydd gan y tad naturiol gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig.

Gellid rhoi cyfrifoldeb rhiant i rywun arall a byddai angen dangos tystiolaeth o hyn.

Ni chewch ddefnyddio seremoni enwi i newid enw cyntaf plentyn oni bai bod gennych yr awdurdod i wneud hynny.

Mewn rhai amgylchiadau, bydd angen i'r llysoedd awdurdodi newid enw cyntaf.

Os nad ydych yn siwr p'un a allwch newid enw cyntaf eich plentyn, rhaid i chi gael cyngor cyfreithiol cyn trefnu'r seremoni.