Cynllun diogelwch yn y cartref

Mae cynllun diogelwch yn y cartref Cyngor Dinas Casnewydd ar gael i drigolion oedrannus neu anabl sy'n byw yn eu cartref eu hunain neu mewn cartref sy'n cael ei rentu'n breifat.

Mae'r cynllun yn cynnig grant i wneud addasiadau bach i gartref y person, i'w helpu i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol. 

Mae'n rhaid i unrhyw waith sy'n cael ei wneud fod yn ofynnol er mwyn helpu i naill ai: 

  • ryddhau rhywun o'r ysbyty, neu

  • atal rhywun rhag gorfod mynd i'r ysbyty, neu

  • atal rhywun rhag gorfod mynd i ofal tymor hir

Gallai'r cynllun diogelwch yn y cartref gael ei ddefnyddio i ddarparu: 

  • dolenni drws, cloeon a chliciedau wedi'u haddasu
  • system fynediad ar gyfer y drws - fe'i darperir mewn amgylchiadau eithriadol ac yn amodol ar atgyfeiriad gan therapydd galwedigaethol
  • dolenni mewnol, teclynnau gafael i'r dwylo a chanllawiau bachu, canllaw sy'n gostwng, canllaw grisiau - mae angen atgyfeiriad gan therapydd galwedigaethol i gael canllawiau ar gyfer mynd i mewn i faddon neu gawod 
  • polion o'r llawr i'r nenfwd
  • canllawiau bachu a chanllawiau allanol
  • rampiau bach gosod, parhaol
  • llwybrau gwastad neu drwsio neu addasu grisiau
  • socedi trydan ychwanegol os oes eu hangen i gynnal offer meddygol hanfodol, teleofal a theleiechyd
  • ffynhonnell wres ychwanegol mewn amgylchiadau eithriadol 
  • toiled uchel, lle nad yw codwr yn addas
  • goleuadau ychwanegol ar gyfer pobl sydd â nam ar y golwg
  • lloriau gwrthlithro, trwsio estyll rhydd
  • cloch drws sy'n fflachio, i bobl â nam ar y clyw
  • 'keysafe' lle bo'r angen i gefnogi'r gwasanaeth larwm cymunedol neu roi mynediad hanfodol i weithwyr gofal - mae angen atgyfeiriad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, gweithiwr cymdeithasol, therapydd galwedigaethol neu'r tîm teleofal ar gyfer hyn 
  • cyfleusterau coginio diogel, e.e. darparu blwch ynysu
  • sedd yn y gawod - ar ôl cael atgyfeiriad gan therapydd galwedigaethol

Gall y cyngor drefnu i waith gael wneud ar ran y preswylydd.

Bydd lefel y cymorth yn cael ei chyfrifo ar sail cost resymol y gwaith, hyd at uchafswm o £1000.

Gwneud cais    

Gallwch wneud cais am gymorth os ydych chi'n byw yn eich cartref eich hun neu mewn eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat. 

Gall preswylwyr Casnewydd ofyn am gael eu hystyried ar gyfer y cynllun diogelwch gan gysylltu â'r cyngor. 

Gallech gael eich cyfeirio at y cynllun hefyd gan feddygon, nyrsys, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, gweithwyr cymdeithasol yr ysbyty, nyrsys cymunedol, gweithwyr cymdeithasol cymunedol, staff Age Concern, y cynllun PATH, meddygon teulu, aelodau'r ward.

Gwnewch gais ar-lein

E-bost [email protected]