Mae Casnewydd mewn lleoliad da ar gyfer gwasanaethau ffordd, rheilffyrdd, môr ac awyr rhagorol, gan ei wneud yn lleoliad busnes delfrydol ar gyfer marchnadoedd yn y DU a thramor.
Ar y ffyrdd
Mae traffordd yr M4, y brif ffordd ddwyreiniol - orllewinol yn rhan ddeheuol y DU, yn amgylchynu'r ddinas gan roi mynediad cyflym i Lundain a'r de-ddwyrain.
Mae chwe chyffordd leol yn gwasanaethu Casnewydd gyda nifer o barciau busnes a dosbarthu'r ddinas wedi'u lleoli wrth ymyl y cyffyrdd.
Cysyllta ffordd ddeuol uniongyrchol Gasnewydd i'r M50 ac ymlaen i'r M5 a gorllewin Canolbarth Lloegr.
Hefyd mae cysylltiadau traffyrdd i'r de orllewin o fewn cyrraedd hawdd.
Sampl o amseroedd teithiau ffordd o Gasnewydd
Canol Llundain
|
2 awr 30 munud
|
Llundain (M25)
|
2 awr
|
Llundain Heathrow
|
2 awr
|
Twnnel y Sianel
|
4 awr
|
Birmingham
|
1 awr 30 munud
|
Bryste
|
30 munud
|
Caerdydd
|
20 munud
|
Manceinion
|
3 awr
|
Ar y rheilffyrdd
Mae Casnewydd ar y brif reilffordd rhwng Abertawe a Llundain gyda gwasanaethau aml yn y ddau gyfeiriad.
Mae Llundain 90 munud i ffwrdd ar y trên, gyda threnau yn gadael bob 30 munud yn ystod y dydd.
Cyrhaedda’r trenau o Gaerdydd bob deng munud yn ystod y dydd.
Mae'r ddinas hefyd ar ddechrau’r brif lein o Gasnewydd i Fanceinion ac mae ganddi fynediad rheilffyrdd uniongyrchol gwych i Ganolbarth Lloegr a gogledd orllewin Lloegr.
Mae terfynfa ‘freightliner’ rhyngwladol y de-orllewin, cyfnewidfa ffyrdd a rheilffyrdd mawr o fewn deng milltir i'r ddinas.
Meysydd awyr
Mae gan Faes Awyr Caerdydd (taith car 35 munud) a Maes Awyr Bryste (taith car 45 munud) wasanaethau trefnedig uniongyrchol i gyrchfannau cenedlaethol a chyfandirol yn ogystal â theithiau trawsatlantig.
Dim ond dwy awr o daith car yw hi i Faes Awyr Heathrow yn Llundain.
Mae gan Faes Awyr Caerdydd gyfleusterau trin nwyddau modern gyda warysau diogel a thriniaeth daear gyflawn 24 awr y dydd ar gyfer cynwysyddion a wagenni.
Mae gwasanaeth olrhain nwyddau yn gweithredu bob dydd rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a Maes Awyr Heathrow.
Ar y môr
Mae Porthladd Casnewydd mewn lleoliad delfrydol i wasanaethau prif ganolfannau diwydiannol a masnachol y DU.
Mae Cyffordd 28 traffordd yr M4 daith car bum munud i ffwrdd, ac mae angorfeydd dŵr dwfn y porthladd yn cael eu gwasanaethu yn uniongyrchol i'r cei.
Gall y porthladd drin llongau o hyd at 40,000 tunnell fetrig ac mae'r cyfleusterau'n cynnwys terfynell cargo swmp, warysau a storio agored a dan do.