Pwy sydd yma

Gwyliwch y ffilm fer hon i weld pam mae cwmnïau yn lleoli yng Nghasnewydd, dinas graff a chysylltiedig.  

Mae cwmnïau a sefydliadau blaenllaw wedi'u lleoli yng Nghasnewydd:

SPTS Technologies

Rydym wedi bod yng Nghasnewydd ers dros 20 mlynedd ac mae'r ddinas yn cynnig cysylltiadau cludiant rhagorol, sy'n hanfodol gan ein bod yn allforio dros 95% o'n cynhyrchion. Mae'r rhanbarth, sy'n gartref i nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg mawr a bach, hefyd yn cynnig gweithlu hynod fedrus sydd â'r profiad priodol ar gyfer ein gofynion. Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghasnewydd, rydym yn falch o weld yr adfywio parhaus yng nghanol y ddinas, sydd mor bwysig i'n gweithwyr lleol ond hefyd pan ddaw cwsmeriaid o dramor i ymweld â ni.

Kevin Crofton, Llywydd SPTS Technologies ac Is-lywydd Corfforaethol yn Orbotech

Gwyliwch SPTS yn siarad am eu profiad yng Nghasnewydd 

Cydwasanaethau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Dewisom Celtic Springs, Casnewydd, ar ôl proses ddewis drylwyr a chadarn. Roedd ein meini prawf yn cynnwys cysylltiadau cludiant da, safon yr adeilad ei hun a'r gallu i ddenu gweithlu o'r ansawdd priodol – roedd Celtic Springs yn ticio pob blwch. Roeddem wrth ein bodd ag ansawdd a lefel yr ymateb drwy gydol y broses gyfweld.

Steve Hodgson, cyn-bennaeth y Ganolfan Cydwasanaethau

Halo Foods

Un o'r prif ffactorau sy'n ein helpu i aros ar frig marchnad gystadleuol iawn yw ein gweithlu. Yn anad dim, mae ar y diwydiant hwn angen carfan o weithwyr ymroddedig sydd hefyd yn dangos parodrwydd i addasu i batrymau gweithio newydd. Gall hyn fod yn gyfuniad anodd ei ddarganfod, ond ein gweithwyr yw'r sail i'n llwyddiant. Ffactor arall yw'r lleoliad ac, o Gasnewydd, mae'r cysylltiadau â thraffordd yr M4 yn rhagorol, sy'n ein helpu i ddanfon cynhyrchion bwyd at ein cwsmeriaid ar amser.

Robin Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol

Wilkinson

Mae Wilkinson yn werthfawrogol iawn o gysylltiadau da rhwng pobl yn y gwaith, ac nid yw Cymru wedi ein siomi. Ers i ni agor ein canolfan ddosbarthu ym Magwyr, Casnewydd, rydym wedi canfod brwdfrydedd heb ei ail ymhlith ein gweithlu a'n cwsmeriaid, sy'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.

Mae ein canolfan ddosbarthu 850,000 o droedfeddi sgwâr mewn lleoliad delfrydol nid yn unig i wasanaethu Cymru, ond de a de-orllewin Lloegr hefyd. 

Simon Lowe, Rheolwr, Canolfan Ddosbarthu Wilkinson Hardware Stores

 

  • Gocompare 
  • Centurion VAT 
  • Gwesty Hamdden y Celtic Manor 
  • Prifysgol De Cymru

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am gwmnïau sydd wedi'u lleoli yng Nghasnewydd, anfonwch e-bost at [email protected]