Gweithlu

Mae sefyllfa unigryw Casnewydd fel porth i Gymru yn rhoi mynediad hawdd i gyflogwyr i bwll mawr o staff posibl.

Noda busnesau bod ansawdd ac argaeledd y gweithlu yn ffactorau allweddol yn eu penderfyniad i leoli yng Nghasnewydd. 

Ffeithiau Allweddol

  • Mae tua 479,000 o bobl sy'n economaidd-weithredol yn byw o fewn amser taith car o 30 munud, gan gynnwys Caerdydd a rhannau o Fryste, a thros 1.6 miliwn yn byw o fewn taith awr yn y car
  • Mae 74,000 o bobl yn gweithio yn y ddinas
  • Mae’r tâl wythnosol gros cyfartalog i weithiwr sy'n gweithio yng Nghasnewydd tua 94% o gyfartaledd Prydain Fawr
  • Ceir cyfradd cadw staff uwch na chyfartaledd y DU (ffynhonnell: HESA 2011/12)
  • Mae gan y gweithlu hanes profedig o hyblygrwydd a theyrngarwch gydag arbenigedd mewn awyrofod, peirianneg, electroneg, telathrebu, TG, gwasanaethau ariannol, gwasanaethau cyhoeddus a sectorau busnes
  • Mae’r allbwn blynyddol o raddedigion gradd gyntaf o brifysgolion o fewn 30 milltir i Gasnewydd dros 17,000
  • Cynigia Prifysgol De Cymru gyrsiau gradd, cymwysterau proffesiynol a safon HND ac mae ganddi record dda o gyflogadwyedd, yn gweithio gyda chyflogwyr lleol allweddol
  • Casnewydd yw cartref yr Alacrity Foundation, menter i helpu graddedigion mwyaf disglair y DU sefydlu cenhedlaeth newydd o gwmnïau uwch-dechnoleg yng Nghymru
  • Darllenwch grynodeb o wybodaeth ystadegol Casnewydd 

Cyswllt

Ceir mwy o wybodaeth gan y tîm gwasanaethau busnes.