Ansawdd Bywyd

Cynigia Casnewydd ansawdd bywyd ardderchog gydag ysgolion poblogaidd, golygfeydd hardd a digwyddiadau chwaraeon ac adloniant bywiog.

Mae buddsoddiad yn trawsnewid canol y ddinas gyda thai, siopau, swyddfeydd a chyfleusterau lesio newydd.

Mae'r eiddo yn fforddiadwy gyda phrisiau tai oddeutu 59% o'r cyfartaledd cenedlaethol. 

Perffaith ar gyfer gwaith, hyd yn oed gwell ar gyfer byw

Mae Casnewydd yn ddinas arfordirol sy’n agos at Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, Bannau Brycheiniog, arfordir Gŵyr a Dyffryn Wysg.

Ar hyn o bryd, mae canol dinas Casnewydd yn cael ei hailddatblygu i roi bywyd newydd i adeiladau manwerthu a busnes, a thrawsnewidiwyd yr orsaf reilffordd gan ddarparu mynediad gwych i rwydwaith trafnidiaeth drawiadol.

Yng Nghasnewydd y cynhaliwyd Cwpan Ryder yn 2010. 

Addysg

Roedd y gyfradd lwyddiant lefel A yng Nghasnewydd yn 2015 yn 97%, gyda chanran y rheiny a enillodd A*-C yn 76.3 y cant, yn uwch na chyfartaledd Cymru o 74.3 y cant.

Mae addysg breifat ar gael yn ysgol Rougement i blant rhwng 3.5 -18 oed ac mewn ysgolion yn Nhrefynwy a Chaerdydd.

Mae gan Brifysgol De Cymru adeilad o'r radd flaenaf yng nghanol y ddinas.

Prifysgolion eraill o fewn 30 milltir yw Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.

Hamdden

  • Mae dros 30 o gyrsiau golff yng Nghasnewydd ac o gwmpas Casnewydd
  • Mae llwybrau beicio a cherdded sy'n cysylltu'r ddinas â Chaerllion a Llwybr Arfordir Cymru
  • Ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd ceir Felodrom Cenedlaethol Cymru, pwll nofio, stadiwm pêl-droed ac athletau, caeau criced a hoci, canolfan tenis dan do a'r Ganolfan Rhagoriaeth, y sylfaen ar gyfer y garfan pêl-droed cenedlaethol yng Nghymru
    • Rodney Parade, stadiwm y ddinas, yw cartref tîm rygbi Dreigiau Casnewydd Gwent, yn ogystal â Chlwb Rygbi Casnewydd ac AFC Sir Casnewydd
    • Mae’r Celtic Manor Resort yn cynnig gwasanaethau hamdden a busnes o'r radd flaenaf mewn lleoliad syfrdanol
    • Mae gan Theatr a Chanolfan Gelfyddydol y Riverfront raglen o berfformiadau byw proffesiynol, arddangosfeydd, dosbarthiadau, gweithdai a gweithgareddau
    • Mae Gwarchodfa Gwlypdiroedd Casnewydd yn denu adar gwlyptir ac mae’n gartref i degeirianau, gloÿnnod byw, gweision y neidr a dyfrgwn
    • Mae Tŷ Tredegar yn un o ryfeddodau pensaernïol Cymru ac un o'r tai mwyaf arwyddocaol o'r 17eg ganrif yn Ynysoedd Prydain