Ymunwch â Llyfrgelloedd Casnewydd

Os ydych yn byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghasnewydd gallwch ymuno â Llyfrgelloedd Casnewydd a:

  • benthyg hyd at 20 o lyfrau am gyfnod o dair wythnos (oedolion ac ieuenctid)
  • adnewyddu benthyciadau’n awtomataidd
  • mynediad ar-lein am ddim at eLyfrau, eLyfrau Clywedol ac eGylchgronau
  • defnyddio ystod o adnoddau gwybodaeth ar-lein
  • ymchwilio i hanes teulu gyda mynediad am ddim at Ancestry.com a FindMyPast mewn llyfrgelloedd
  • manteisio ar wi-fi am ddim ym mhob llyfrgell
  • cewch ddefnyddio cyfrifiadur am ddim am ddau awr yn eich llyfrgell leol

Os ydych dros 16 oed gallwch ymuno â Llyfrgelloedd Casnewydd heddiw drwy lenwi’r ffurflen ar-lein neu os yw’n well gennych, gofynnwch am ffurflen ymuno o unrhyw lyfrgell yng Nghasnewydd. 

Ymuno â Llyfrgelloedd Casnewydd

Aelodaethau llyfrgell eraill

Gwasanaeth danfon cartref llyfrgell– ar gyfer pobl sy’n methu ag ymweld â’r llyfrgell oherwydd oedran, salwch neu anabledd.

Casgliadau’r Blynyddoedd Cynnar – gall rheolwyr meithrinfeydd neu gynlluniau chwarae â chyfeiriad parhaol ymgeisio am gasgliad bychan o lyfrau plant y mae modd eu newid yn aml.

Schools and educators can also apply for special teacher and class tickets. Email [email protected] for more information.

Telerau ac amodau a chostau