Telerau ac amodau
Gall unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghasnewydd ymuno â Llyfrgelloedd Casnewydd
- Unwaith y byddwch wedi dangos prawf tystiolaeth e.e. trwydded yrru, bil trydan/nwy/dŵr, pasbort, byddwch yn cael benthyg hyd at 20 o eitemau gan gynnwys eitemau sain-gweledol.
- Os na allwch ddarparu prawf tystiolaeth byddwch yn gallu benthyg hyd at wyth o eitemau, heblaw am eitemau sain-gweledol, ar sail dros dro
- Bydd angen darparu prawf tystiolaeth ar ôl mis er mwyn parhau i fenthyg eitemau fel aelod llawn o’r llyfrgell
- Dim ond chi ddylai ddefnyddio’r cerdyn llyfrgell, ac mae’n rhaid ei ddangos er mwyn benthyg eitemau
- Rhaid i chi roi gwybod i’r llyfrgell am unrhyw newid cyfeiriad
- Os ydych yn colli’r cerdyn bydd angen talu am un newydd. Chi sy’n gyfrifol am unrhyw eitemau sydd wedi’u benthyg ar y cerdyn hwnnw nes y byddwch wedi cadarnhau eich bod wedi’i golli ac wedi gwneud cais i’w ganslo.
- Y cyfnod benthyg safonol yw tair wythnos
- Bydd cyfnod benthyg o bythefnos ar lyfrau poblogaidd ac ni chewch eu hadnewyddu - byddwch yn cael gwybod hyn pan fyddwch yn benthyg un o'r llyfrau
- Mae’n rhaid dychwelyd neu adnewyddu’r eitemau cyn hanner nos ar y dyddiad dychwelyd neu byddwch yn gorfod talu ffi yn unol â graddfa bresennol y costau
- Gallwch adnewyddu eitem am dair wythnos arall heb ddod â hi yn ôl i'r llyfrgell, oni bai bod rhywun arall wedi gofyn amdani. Gall llyfrau y mae rhywun arall wedi gofyn amdanynt gael eu hadnewyddu unwaith yn unig, am ddau ddiwrnod
- Chi fydd yn gyfrifol am unrhyw golled neu niwed i eitemau sydd wedi’u benthyg, ac mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu i brynu rhai newydd
Ni fyddwch yn cael benthyg rhagor o eitemau os:
(a) nad ydych yn talu'ch costau llyfrgell sy'n hwyr, neu
(b) yn peidio â dychwelyd eitemau sy’n hwyr iawn, neu
(c) heb dalu am neu ddisodli eitem sydd ar goll neu wedi’i difrodi