Cyfrifiaduron
Gwaith cynnal a chadw ar wasanaethau’r Llyfrgell 08/06/2019
Ar y penwythnos sy’n cychwyn ar 8 Mehefin 2019, ni fydd ein gweinyddwyr llyfrgell ar waith er mwyn cynnal a chadw hanfodol. Felly ni fydd y cyfrifiaduron Mynediad Cyhoeddus na chiosgau hunanwasanaeth y llyfrgelloedd ar gael i’r cyhoedd trwy’r penwythnos hwnnw.
Bydd modd i staff y llyfrgelloedd gyflwyno a dychwelyd llyfrau all-lein, ond dim ond mynediad cyfyngedig fydd at y catalog er mwyn gwneud ceisiadau ac adnewyddu a.y.b.
Caiff dyddiad dychwelyd pob eitem a ddylai ddod yn ôl y penwythnos hwnnw ei estyn gan wythnos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar gyfrifon cwsmeriaid.
Mae cyfrifiaduron ym mhob llyfrgell gyhoeddus yng Nghasnewydd at ddefnydd y cyhoedd y gall aelodau eu defnyddio am ddim am hyd at ddwy awr y dydd.
Mae gan y cyfrifiaduron gysylltiadau USB, y rhyngrwyd a nodweddion hygyrchedd.
Mae gan y llyfrgelloedd canlynol lecyn Wi-Fi at ddefnydd y cyhoedd:
Archebu lle ar gyfrifiadur
Os ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Casnewydd gallwch gadw lle ar gyfrifiadur drwy ofyn i aelod staff yn unrhyw un o lyfrgelloedd Casnewydd neu drwy fynd i dudalen archebu MYPC.
Argraffu
Mae gan bob llyfrgell yng Nghasnewydd argraffydd A4 gwyn a gellir argraffu tudalennau am ffi fach.
Sganio
Mae gan y Llyfrgell Ganolog bedwar cyfrifiadur sydd wedi eu cysylltu â sganwyr y gellir eu defnyddio am ddim.
Gall fod yn ddefnyddiol archebu’r peiriannau hyn ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod mynediad at sganiwr gennych.
Cymorth TG
Mae Llyfrgelloedd Casnewydd yn cynnig ystod o sesiynau cymorth TG.